Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Canllaw rheoliadau adeiladu

Rheoliadau adeiladu yw'r safonau gofynnol o ran adeiladu. Maent yn cynnwys strwythur adeilad, diogelwch tân, cadwraeth ynni a mynediad a defnydd o adeiladau.

Yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r rheoliadau adeiladu. 

Gallwn roi cyngor i chi ar sut i sicrhau eich bod yn bodloni'r rheoliadau adeiladu. Gallwch ein ffonio ar (01792 635636) neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk

Dogfennau cymeradwy ar gyfer rheoliadau adeiladu

Mae esboniad am sut y dylid defnyddio'r arweiniad rheoliadau adeiladu yn y dogfennau cymeradwy. Ceir arweiniad manwl a'r dogfennau gorffenedig ar wefan Llywodraeth Cymru. O'r wefan hon, gallwch lawrlwytho copi pdf neu archebu fersiwn wedi'i hargraffu.

Mae pob dogfen yn cynnwys:

  • arweiniad cyffredinol ar berfformiad disgwyliedig deunyddiau a gwaith adeiladu er mwyn cydymffurfio â phob gofyniad y rheoliadau adeiladu
  • enghreifftiau ac atebion ymarferol ar sut i gydymffurfio â rhai o'r sefyllfaoedd adeiladu mwyaf cyffredin.

Y dogfennau cymeradwy yw:

  • Rhan A: diogelwch strwythurol
  • Rhan B: diogelwch tân
  • Rhan C: ymwrthedd i halogyddion a lleithder
  • Rhan D: sylweddau gwenwynig
  • Rhan E: ymwrthedd i sŵn
  • Rhan F: awyru
  • Rhan G: glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac arbed dŵr
  • Rhan H: systemau draenio a gwaredu gwastraff
  • Rhan J: dyfeisiau sy'n cynhyrchu gwres
  • Rhan K: diogelu rhag syrthio, gwrthdaro a tharo
  • Rhan L: arbed tanwydd ac ynni
  • Rhan M: mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt
  • Rhan N: diogelwch gwydr
  • Rhan P: diogelwch gyda thrydan
  • Rhan Q: diogelwch
  • Rhan R: seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym.
Close Dewis iaith