Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cofrestr Risgiau Cymunedol De Cymru

Asesu risgiau'r Gofrestr Risgiau Cymunedol yw cam cyntaf y broses cynllunio rhag argyfyngau; mae'n sicrhau bod cynllunio a gwaith arall yn cael eu cynnal yn unol â'r risg.

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004) yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar amrywiaeth eang o ymatebwyr i gynnal asesiadau risg a'u cadw ar Gofrestr Risgiau Cymunedol.

Cyhoeddir cofrestr risgiau ar gyfer De Cymru sy'n amlygu peryglon posib yn ein hardal. Paratowyd yn unol ag arweiniad statudol cenedlaethol ar baratoi ar gyfer argyfwng.

Darllenwch y gofrestr risg gymunedol ar gyfer ardal de Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Diben y Gofrestr Risgiau Cymunedol yw:

  • sicrhau preswylwyr lleol bod y mesurau a'r cynlluniau a roddwyd ar waith yn ymateb i beryglon posib
  • sicrhau bod gan breswylwyr lleol ddealltwriaeth gywir o'r risgiau y maent yn eu hwynebu i ddarparu sylfaen dda i gynllunio
  • darparu rhaglen waith a sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n effeithlon
  • galluogi ymatebwyr lleol i asesu digonolrwydd eu cynlluniau a nodi unrhyw fylchau sy'n bodoli
  • defnyddio ac annog gweithio amlasiantaeth sy'n sicrhau proses gynllunio fwy cynhwysfawr
  • darparu trosolwg hygyrch o gyd-destun cynllunio rhag argyfyngau ar gyfer y cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb
  • llywio asesiadau risg cenedlaethol a rhanbarthol sy'n cefnogi cynllunio rhag argyfyngau a datblygu gallu ar y lefelau hynny.
Close Dewis iaith