Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliadau ailgylchu i fusnesau

O dan y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, o 6 Ebrill 2024 mae gan bob busnes ofyniad cyfreithiol i ailgylchu. Gallwn eich helpu i gydymffurfio.

Gallwch ailgylchu'r canlynol gyda ni:

  1. gwastraff bwyd a gynhyrchir gan fangre sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
  2. papur a cherdyn
  3. cardbord
  4. gwydr
  5. metel tuniau a chaniau
  6. plastig
  7. cartonau a phecynnu tebyg eraill (y cyfeirir atynt o hyn allan ar y cyd fel 'cartonau')
  8. cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (WEEE) heb ei werthu
  9. tecstilau heb eu gwerthu.

Gwastraff bwyd

Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu mewn bin olwynog 360 litr. Nid ydym yn caniatáu i chi roi gwastraff bwyd yn y biniau gwastraff cyffredinol. Dylech ddefnyddio'n sachau leiner ar gyfer y cadis. Gellir archebu'r sachau leiner gwastraff bwyd ar-lein.

Papur a cherdyn

Cesglir gwastraff papur a cherdyn o fin olwynog 240 litr neu o sachau clir rhagdaledig. Gellir archebu'r sachau clir ar gyfer ailgylchu papur a cherdyn ar-lein..

Cardbord

Gellir casglu cardbord o fin olwynog 1,100 litr neu gallwch brynu sticeri er mwyn rhoi cardbord rhydd ar ochr y ffordd i'w gasglu. Gallwch archebu sticeri (pecyn o 20) ar-lein.

Gwydr

Gellir darparu biniau olwynog 1,100 litr a 240 litr neu gadi 50 litr ar gyfer casgliadau gwydr i'w hailgylchu.

Tuniau metel a chaniau

Gellir darparu biniau olwynog 240 litr neu gadi 50 litr ar gyfer casgliadau tun a chaniau cymysg i'w hailgylchu.

Plastig

Rydym bellach yn gallu cynnig gwasanaeth ailgylchu plastig. Gellir gwneud casgliadau o finiau olwynog 240 litr neu fag ailddefnyddadwy 120 litr. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.

Cartonau

Rydym bellach yn gallu cynnig gwasanaeth ailgylchu cartonau. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) a thecstilau heb eu gwerthu

Mae WEEE a thecstilau heb eu gwerthu yn wasanaeth ar gais, felly bydd angen i chi drefnu casgliad bob tro y bydd angen i'r eitemau hyn gael eu cymryd oddi ar eich safle. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.

Ni ellir defnyddio gwasanaethau casglu domestig i gael gwared ar eich ailgylchu.  Mae'n rhaid i bob casgliad ailgylchu fynd drwy'r gwasanaeth casglu Gwastraff Masnachol.

Close Dewis iaith