Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd

Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd ar gyfer Abertawe (Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar 2018).

Dylid nodi bod yr amcanestyniadau poblogaeth hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth a thueddiadau cyn Cyfrifiad 2021.

Amcanestyniadau poblogaeth

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcan o faint y boblogaeth yn y dyfodol yn seiliedig ar ragdybiaethau genedigaethau, marwolaethau a mudo sy'n deillio o dueddiadau'r gorffennol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf yn seiliedig ar ragdybiaethau ar gyfer y 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru ym mis Awst 2020.  Mae'r amcanestyniadau hyn yn seiliedig ar 2018 ac maent ar gyfer y cyfnod 25 mlynedd i 2043.  Mae'r amcanestyniadau'n seiliedig yn bennaf ar ddata genedigaethau, marwolaethau a mudo dros bum mlynedd (hyd at ganol 2018), ac maent yn cynnwys tybiaethau ar ffrwythlondeb a marwolaethau o'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.

Mae  nodyn briffio (PDF) [1MB] ar gael, sy'n rhoi trosolwg ar amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru a chanlyniadau allweddol Abertawe.  Mae'r nodyn hefyd yn crynhoi'r fethodoleg, y newid yn y boblogaeth a ragamcenir yng Nghymru, y tueddiadau yn ôl grwpiau oedran allweddol, cymariaethau â'r amcanestyniadau blaenorol a'r amcanestyniadau amrywiol cychwynnol a gyhoeddwyd.

Mae'r rhagamcaniadau'n nodi'r hyn a all ddigwydd yn unig os yw tueddiadau poblogaeth (hyd at 2018) yn parhau. Nid ydynt yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol a chenedlaethol, neu newid posib a achosir gan ffactorau demograffig, cymdeithasol ac economaidd diweddar gan gynnwys pandemig COVID-19.  Fodd bynnag, mae amcanestyniadau'n bwysig ar gyfer datblygu polisïau, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys amcangyfrif angen lleol yn y dyfodol.

Ymgymerir ag amcanestyniadau diwygiedig gan ymgorffori canlyniadau diweddaraf y Cyfrifiad ac amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig hyd at 2021.  Bydd diweddariadau ar hyn yn dilyn maes o law.

Amcanestyniadau Aelwydydd

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2018 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.  Daw'r amcanestyniadau aelwydydd o amcanestyniadau poblogaeth sy'n seiliedig ar 2018 a thybiaethau am newidiadau yng nghyfansoddiad a maint aelwydydd yn y dyfodol.  Mae nodyn briffio (PDF) [1MB] ar yr amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf hefyd ar gael ar y dudalen hon.

Unwaith eto, dylid nodi bod yr amcanestyniadau aelwydydd hyn (ar sail 2018) yn seiliedig ar amcangyfrifon a thueddiadau cyn Cyfrifiad 2021, a chânt eu diweddaru ar ôl cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth diwygiedig.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r amcanestyniadau hyn, neu os oes angen mwy o ystadegau demograffig Abertawe arnoch, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith