Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Amodau a thelerau hawlenni parcio

Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth wneud cais am hawlen barcio.

Trwy gyflwyno cais, rydych yn cytuno y gwyddoch y gallech gael eich erlyn os ydych wedi nodi'n fwriadol ynddo unrhyw beth sy'n anwir. Rydych hefyd yn cadarnhau eich bod yn deall nad yw hawlen barcio'n gwarantu lle i barcio'r cerbyd ac y bydd camddefnyddio'r hawlen yn golygu y caiff ei thynnu'n ôl.

Rydych hefyd yn rhoi caniatâd i'r awdurdod wirio'r wybodaeth a ddarperir gennych yn erbyn gwybodaeth arall sydd ganddo neu unrhyw wybodaeth sydd gan adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol eraill. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon i wirio, atal neu ganfod twyll.

Hawlen barcio preswylwyr - ar gyfer eich stryd

  • Rhoddir hawlenni i breswylwyr amser llawn bona fide y stryd dan sylw sy'n berchen ar gar
  • Gellir cyflwyno hyd at ddwy hawlen fesul eiddo, ar yr amod bod dau gerbyd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad. Caiff adeiladau sydd wedi'u haddasu i fflatiau/fflatiau un ystafell eu trin fel un eiddo felly dim ond 2 hawlen fydd ar gael ar gyfer yr eiddo cyfan, a'r cyntaf i'r felin gaiff y rhain.
  • Ni roddir hawlenni i gyfadeiladau preswyl y mae ganddynt ddarpariaeth barcio breifat.
  • Mae'r hawlen barcio preswylwyr yn parhau am flwyddyn o'r dyddiad cyhoeddi ac, ar ôl y cyfnod hwn, bydd rhaid ei hadnewyddu.
  • Maent yn rhad ac am ddim.
  • Cyflwynir hawlenni i gerbydau nad ydynt yn pwyso mwy na 3500kg (cyfanswm pwysau gros) ac ni all y cerbyd fod yn fwy na 2.35m o uchder a 5.35m o hyd.

Hawlen barcio preswylwyr - ar gyfer stryd gerllaw

Gallwch wneud cais am hawlen barcio preswylwyr ar gyfer stryd gerllaw ac os nad oes gennych gyfleusterau parcio oddi ar y stryd ac ni allwch barcio y tu allan i'ch cartref oherwydd:    

  • Rydych yn byw ger prif lwybr traffig NEU
  • Rydych yn byw ar gyffordd a reolir gan oleuadau traffig NEU
  • Rydych yn byw ger cylchfan dan orchymyn traffig sy'n atal parcio

Rhoddir hawlenni ar gyfer stryd gerllaw os oes lle ar gael yn unig. Bydd angen gwiriad bob tro y gwnewch gais am hawlen mewn stryd gerllaw. Gan y gall y cydbwysedd newid o flwyddyn i flwyddyn, ni ellir gwarantu'r hawlen hon pan wnewch gais cychwynnol neu gais i adnewyddu hawlen. Sylwer y gofynion tystiolaeth isod.

Pa dystiolaeth y gofynnir i chi ei rhoi ar gyfer hawlen preswylwyr?

  • eich llyfr cofrestru V5 - rhaid iddo ddangos eich enw a'ch cyfeiriad yn Abertawe
  • eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw a'ch cyfeiriad yn Abertawe
  • eich dogfen/tystysgrif yswiriant - rhaid iddi ddangos eich enw a'ch cyfeiriad yn Abertawe

Sylwer nad yw talu Treth y Cyngor yn un o'r meini prawf cymhwyso er mwyn derbyn hawlen barcio i breswylwyr.

Sylwer mai'r ymgeisydd sy'n gyfrifol am ddarparu'r dystiolaeth uchod felly ni chaiff unrhyw nodiadau atgoffa eu hanfon.

Gyrwyr anabl

Os yw rhywun anabl yn berchen ar gerbyd a ddarperir gan y cynllun symudedd, ond nid yw'n gallu ei yrru ac, felly, mae'n defnyddio gyrrwr enwebedig, gellir rhoi hawlen barcio preswylwyr i'r gyrrwr enwebedig ar gyfer cyfeiriad yr unigolyn anabl er nad yw'n berchen ar y car.

  • Bydd yn rhaid i chi roi llythyr oddi wrth yr unigolyn anabl sy'n cadarnhau mai chi yw ei yrrwr enwebedig A
  • Chopi o'r ddogfennaeth berchnogaeth/werthiant gan y cwmni symudedd sy'n cadarnhau lle cedwir y cerbyd.

Cerbydau cwmni

Gellir cyflwyno hawlen ar gyfer cerbyd cwmni ar yr amod bod y cerbyd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith a bod yn rhaid i chi ei gadw gartref. Bydd yn rhaid i chi ddarparu llythyr oddi wrth eich cyflogwr, ar bapur pennawd, sy'n cadarnhau bod hyn yn wir.

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi roi cadarnhad ysgrifenedig, ar eich papur pennawd, fod y cerbyd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith a bod yn rhaid i chi ei gadw gartref.

Hawlenni papur sy'n mynd ar goll neu'n cael eu difrodi

Os bydd hawlen bapur yn mynd ar goll neu'n cael ei difrodi, codir tâl o £25 am un newydd.

Os na rowch yr holl dystiolaeth angenrheidiol ar gais, gellir gwrthod eich cais am hawlen neu gellir diddymu'ch hawlen.

Close Dewis iaith