Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Anifeiliaid gwyllt peryglus

Os ydych chi'n cadw anifail yr ystyrir ei fod yn beryglus, yn wyllt neu'n egostig, bydd angen trwydded arnoch. Mae hyn hefyd yn cynnwys anifeiliaid hybrid neu groesiad gan ddibynnu ar ba mor bell yw'r anifail o'i ddisgynnydd gwyllt.

Ni fydd angen trwydded o'r fath ar sŵau, syrcasau neu siopau anifeiliaid anwes. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynnwys o dan eu deddfwriaeth eu hunain.

Peryglus neu egsotig?

A yw eich anifail chi'n beryglus? Mae llawer o'r anifeiliaid a ystyrir yn rhai egsotig wedi'u dynodi'n anifeiliaid gwyllt peryglus ac felly mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i'w cadw. Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi wneud cais am drwydded anifail gwyllt peryglus ai peidio, e-bostio trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk

Sut mae gwneud cais

Cyflwyno cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus Cyflwyno cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Codir ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodwyd rhoi trwydded iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio i'w Llys Ynadon lleol.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus.

Cwestiynau cyffredin am anifeiliaid gwyllt peryglus

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am anifeiliaid gwyllt peryglus.
Close Dewis iaith