Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Cydraddoldeb 2012-16

Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r Ddyletswydd Gydraddoldeb newydd ar y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, mae'n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n cynnwys Amcanion Cydraddoldeb penodol.

Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dinas a Sir Abertawe (ar gyfer y cyfnod 2012-2016 i ddechrau) ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y cyngor ar 15 Mawrth 2012 ac mae'n nodi sut byddwn yn adeiladu ar ein Cynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth blaenorol a'n trefniadau ar gyfer bodloni'r dyletswyddau deddfwriaethol newydd.

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb (sydd yn y Cynllun) yn seiliedig ar wybodaeth gan ffynonellau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac maent yn amlygu meysydd anghydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau, defnyddio gwasanaethau neu gyrhaeddiad ar gyfer neu gan grwpiau penodol â nodweddion gwarchodedig fel y'u diffiniwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Dyma'r nodweddion

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu Rhywedd
  • Priodas a Phartneriaeth Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu Gred (gan gynnwys diffyg cred)
  • Rhyw
  • Tueddfryd Rhywiol

Ymdrinnir â materion ynghylch defnyddio'r iaith Gymraeg dan Gynllun Iaith Gymraeg y cyngor. Mae pob Amcan Cydraddoldeb yn cynnwys camau gweithredu i gyflawni canlyniadau penodol mesuradwy i leihau anghydraddoldeb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.

Mae'r tabl isod yn dangos y cysylltiadau rhwng amcanion gwella'r cyngor a'r amcanion cydraddoldeb perthnasol.

Ein Hamcanion GwellaCynllun Cydraddoldeb Strategol

Darparu cefnogaeth i blant yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd cynnar fel y byddant yn barod i ddysgu a gwneud cynnydd datblygiadol.

Amcan Cydraddoldeb 14 -  lleihau'r anghydraddoldeb o ran canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd  ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, trwy wella canlyniadau'r rhai  tlotaf.

Mae pobl yn ddiogel, yn iach ac yn cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol (Plant a Theuluoedd)

Amcan Cydraddoldeb 18 - Gwella mynediad i ddarpariaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd yr holl weithgareddau cynllunio a chomisiynu.

Cefnogi gwell presenoldeb ysgol a chyrhaeddiad pob dysgwr 3 i 19 oed fel y gall pob un gyflawni ei botensial

 

Amcan Cydraddoldeb 10 - Cynnal tueddiadau gwella wrth asesu bechgyn a merched yn ystod Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Cau'r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched.

Amcan Cydraddoldeb 14 - Cynyddu presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardaloedd targed. Gwella sgorau cyfartalog Prawf Darllen Cymru Gyfan ar gyfer plant 6-7 oed a 10-11 oed yn yr ardaloedd targed. Cynyddu cyfran y disgyblion 15-16 oed sy'n cyflawni trothwy Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg.

Datblygu partneriaethau, sgiliau a'r isadeiledd er mwyn denu a meithrin economi ar sail gwybodaeth, gan greu swyddi yn y sectorau allweddol.

Amcan Cydraddoldeb 1 -  Sefydlu grŵp penodol o swyddogion sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Tîm Mynediad i Wasanaethau a'r Adran Adfywio Economaidd a Chynllunio er mwyn helpu i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb allweddol sy'n codi o'r ymgynghoriad ar y rhaglenni gwaith parhaus.

Hyrwyddo opsiynau credyd a chynilo fforddiadwy a helpu pobl i fwyafu eu hincwm a'u hawliau.

Amcan Cydraddoldeb 2 - Darparu llinell gyngor ar hawliau lles am 3 diwrnod yr wythnos i siarad â staff DASA a sefydliadau partner er mwyn mynd i'r afael â'r newidiadau sylweddol yn y system fudd-daliadau yn sgîl y diwygiadau lles.

Helpu pobl i fabwysiadu a datblygu ffyrdd iach a chynaliadwy o fyw er mwyn gwella eu hiechyd.

Amcan Cydraddoldeb 17 - Gwella mynediad i wasanaethau/cyfleusterau diwylliannol, hamdden a chwaraeon ac annog mwy o bobl i fanteisio arnynt.

Mae pobl yn ddiogel, yn iach ac yn cael eu cefnogi i fyw'n annibynnol (Gwasanaethau i Oedolion)

Amcan Cydraddoldeb 18 -Gwella mynediad i ddarpariaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i'r holl weithgareddau cynllunio a chomisiynu.

Gwella tai a chyflenwad tai er mwyn cynyddu argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da.

Amcan Cydraddoldeb 15 -  Gwella mynediad i wasanaethau tai ar gyfer cwsmeriaid.

Lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu drwy hyrwyddo, gweithio gydag eraill a thrwy dargedu ardaloedd â chyfradd ailgylchu isel

Amcan Cydraddoldeb 26 -  Casgliadau â chymorth ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn.

Datblygu Cynaliadwy

Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i ddatblygu cynaliadwy ac Abertawe wyrddach a mwy cynaliadwy.

Close Dewis iaith