Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Sut mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn newid?

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) 2018 yn rhan o'r ffordd y mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn newid.

Cyflwynwyd y Ddeddf yn 2021 a chanolbwynt y Ddeddf yw cynhwysiad; rhoi'r plentyn / person ifanc wrth wraidd popeth a wnawn, a sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial llawn.

Fel rhan o'r system newydd:

  • Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn cymryd lle datganiadau o anghenion arbennig a Chynlluniau Addysg Unigol (CAU) a bydd y rhain nawr yn cefnogi'r plentyn / person ifanc rhwng 0 a 25 oed, os oes angen. Mae'r rhain yn amlinellu sut y gall yr ysgol / coleg helpu'r plentyn / person ifanc gyda'i ddysgu a'i gynnydd.
  • Bydd y plentyn / person ifanc yn ganolog i bob trafodaeth a phenderfyniad a fydd yn ei helpu i gyflawni'i nodau.
  • Bydd oedolion eraill sy'n cefnogi'r plentyn / person ifanc hefyd yn rhan o hyn ac yn rhannu'r hyn y maen nhw'n meddwl sydd ei angen ar y plentyn / person ifanc.
  • Yn y mwyafrif o achosion bydd yr ysgol / coleg yn ysgrifennu'r cynllun a bydd barn pawb yn cael ei chynnwys.
  • Caiff y CDUau eu hadolygu bob blwyddyn, os nad yn amlach a bydd yn symud gyda'r plentyn / person ifanc i'w ysgol neu goleg nesaf.
  • Bydd gan yr ysgol / colege Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a fydd yn sicrhau bod popeth sydd ei angen ar y plentyn / person ifanc yn ei le.
  • Os nad yw'r rhiant / gofalwr neu'r plentyn / person ifanc yn hapus gyda'r cynllun, mae ganddo'r hawl i drafod hyn â staff yr ysgol / coleg. Gall hefyd geisio cyngor gan ein Tîm Gweithwyr Achos.

 

Close Dewis iaith