Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Siopwyr y farchnad yn mwynhau blas ar atyniad newydd y farchnad

Mae siopwyr yng nghanol y ddinas yn mwynhau profiad cymdeithasol a hamddenol newydd ym Marchnad Abertawe.

Market Garden

Market Garden

Mae'r lleoliad eiconig bellach yn fwy croesawgar nag erioed.

Gardd y Farchnad, sef yr ardal newydd yng nghanol y lleoliad, yw'r lle newydd y gall pobl fwyta, gweithio a mwynhau eu hunain. Gallant fynd yno gyda bwyd a diod maent wedi'u prynu o stondinau'r farchnad gyfagos.

Croesawyd lansiad yr ardal ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr gydag ymweliad gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mary Jones.

Roedd Band Pres Gwancaegurwen yno i helpu hebrwng yr oes newydd, roedd mwy o gerddoriaeth gan y gantores-gyfansoddwr Ailie Kenna a chafwyd hwyl gyda'r cymeriadau Nadoligaidd Mickey Mouse, Minnie Mouse, y Grinch a'r Coblyn ar y Silff.

Janet's Café oedd enillydd y gystadleuaeth y stondin sydd wedi'i haddurno orau ar gyfer y Nadolig, gyda stondinau Arlene's Sweetie Jar a Nonna's yn yr ail a'r trydydd safle.

Mae Gardd y Farchnad a'i thema werdd, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys mwy na 170 o blanhigion ynghyd ag amrywiaeth o fyrddau a chadeiriau cyfforddus, ar ffurf gardd, i ymwelwyr fwynhau bwyd a diod a brynwyd o amrywiaeth eang o stondinau'r farchnad.

Bydd y planhigion ifanc newydd yn tyfu i wneud yr ardal yn fwy gwyrdd, bydd unrhyw blanhigion nad ydynt yn ffynnu yn cael eu tynnu a bydd blodau tymhorol hefyd yn cael eu hychwanegu ar adegau priodol.

Mae enw'r atyniad newydd yn dathlu oes flaenorol pan roedd canol y lleoliad yn draddodiadol yn gartref i farchnad flodau.

Wedi'i weithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf COVID, mae gan y lleoliad gyfleusterau gwefru, biniau ailgylchu a gorsaf ddŵr i ail-lenwi poteli dŵr. Cynllunnir gosod WiFi cyhoeddus am ddim yno hefyd.

Mae cadeiriau uchel ar gael ar gyfer y rheini â phlant ifanc. Mae cynheswyr poteli a bwyd i fabanod a bwrdd chwarae i blant bach.

Am y tro cyntaf, gall y rheini sy'n dwlu ar gŵn fynd a'u hanifeiliaid anwes sy'n ymddwyn yn dda i'r farchnad. Gall cŵn fwynhau powlen o ddŵr yng nghwt ci'r Swansea Jack - cyn belled â'u bod yn dilyn rheolau newydd y farchnad ar gyfer cŵn!

Rhagor: www.marchnadabertawe.co.uk

Llun: Gardd y Farchnad.

 

 

 

 

Close Dewis iaith