Toglo gwelededd dewislen symudol

Clwb ieuenctid dros dro Pen-lan yw'r nawfed i lansio yn Abertawe

Mae nifer y clybiau ieuenctid dros dro yn Abertawe yn parhau i gynyddu gydag un arall yn agor ym Mhen-lan yr wythnos nesaf.

Evolve Youth Team

Evolve Youth Team

Mae gwasanaethau ieuenctid Cyngor Abertawe, o'r enw Evolve, wedi ymuno â Freedom Leisure sy'n rhedeg Canolfan Hamdden Pen-lan ar gyfer y fenter hon.

Fe'i cynhelir rhwng 7pm a 9pm bob nos Iau o 3 Chwefror yn y ganolfan, ac mae ar gyfer pobl ifanc 11 i 17 oed.

Rhaid cadw lleoedd ymlaen llaw a disgwylir i'r gweithgareddau gynnwys tenis bwrdd, pêl-fasged, Nintendo a PlayStation, celf a chrefft, mynediad i gampfa'r ganolfan a llawer mwy.

Mae Evolve yn cynnal clybiau ieuenctid ym Mlaen-y-maes, Townhill, Gorseinon, Brynhyfryd a Llansamlet.

Yn y misoedd diweddar, mae'r gwasanaeth wedi ymateb i geisiadau am ddarpariaeth mewn cymunedau eraill drwy weithio gyda phartneriaid i sefydlu naw clwb dros dro mewn ardaloedd eraill gan gynnwys Mayhill, y Clâs a Phen-lan yn awr.

Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Plant, "Er y bu'r clybiau ar gau oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws, aeth gweithwyr ieuenctid o gwmpas y lle i gwrdd â phobl ifanc mewn mannau lle maent fel arfer yn ymgasglu ac yn ystod y pandemig cyfarfuont â 3,000 yn fwy o bob ifanc na'r flwyddyn flaenorol.

"Mae'r newid hwn yn y ffordd y mae ein tîm ieuenctid yn gweithio wedi golygu eu bod wedi gallu cwrdd â llawer mwy o bobl ifanc, gan gynnwys y rheini nad ydynt efallai wedi bod i glwb ieuenctid o'r blaen ond a oedd wedi elwa o ymwneud â'r gwasanaeth ieuenctid yn eu cymuned.

"Y bwriad o hyn ymlaen yw parhau â hyn, a'r clybiau dros dro, yn ogystal â chadw'n clybiau ieuenctid hynod poblogaidd.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn agor un arall o'r rhain ym Mhen-lan a hoffwn ddiolch i Freedom Leisure am eu cefnogaeth gyda hyn.

"Yn Abertawe rydym am wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc fynediad at y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt, mewn lle sy'n ddiogel iddynt."

I gadw lle yng Nghlwb Ieuenctid Pen-lan, ewch i https://form.jotform.com/220122360612337

Close Dewis iaith