Dysgu Gydol Oes
Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu sgiliau neu wybodaeth newydd. Gall ymuno â dosbarth eich annog i ddysgu a gwneud ffrindiau newydd.
Mae tudalenau Addysg i oedolion - Dysgu gydol oes yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth eang o gyrsiau yn ardal Abertawe.
Mae Dewch Ar-Lein Abertawe yn cynnig Dewch arlein Abertawe (cyrsiau cyfrifiadur am ddim) hyfforddiant am ddim i bobl nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron ac yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio technoleg a mynd ar-lein i ddod o hyd i wybodaeth, cyflogaeth neu sgiliau newydd, arbed arian, darganfod diddordebau newydd a chadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a ffrindiau.
Mae Prifysgol y Drydedd OesYn agor mewn ffenest newydd (U3A) yn sefydliad dysgu a chymdeithasol sy'n agored i unrhyw un nad ydynt mewn cyflogaeth amser llawn. Does dim angen cymwysterau i ymuno.
Mae gan Adran Addysg Barhaus OedolionYn agor mewn ffenest newydd Prifysgol Abertawe amrywiaeth o gyrsiau i ddysgwyr sy'n oedolion ar gampws y brifysgol ac yn y gymuned. Mae gan Goleg GŵyrYn agor mewn ffenest newydd nifer o gyrsiau rhan-amser i oedolion.
A pheidiwch ag anghofio am ddosbarthiadau ffitrwydd - mae gan Abertawe Actif dosbarthiadau ar gyfer pob oedran a gallu.
Efallai bydd gan eich Llyfrgell lleol, canolfan gymunedol neu neuadd bentref leol wybodaeth am ddosbarthiadau yn eich ardal.