Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cam mawr ymlaen i drawsnewidiad gerddi Sgwâr y Castell

Castle Square Overhead

Mae adborth y cyhoedd o sawl rownd ymgynghori wedi helpu i ddylanwadu ar olwg a naws y canolbwynt yng nghanol y ddinas y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn gynharach eleni.

Nawr mae'r cyngor wedi symud ymlaen yr wythnos hon drwy gyflwyno'r prosiect trawsnewid i'w dendro.

Bydd y cynlluniau ar gyfer gerddi Sgwâr y Castell yn cynnwys y canlynol:

  • Mwy o goed
  • Mwy o wyrddni, gan gynnwys lawntiau newydd, planhigion addurnol a bioamrywiol
  • Dau adeilad pafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu - gyda tho gwyrdd hygyrch ar un ohonynt
  • Nodwedd ddŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol
  • Sgrîn deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf
  • Ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored 

Bydd dysglau plannu, grisiau seddi, goleuadau a phalmentydd newydd. Bydd y nodwedd cwch deilen bresennol yn cael ei symud i leoliad addas arall yn Abertawe mewn ymgynghoriad â'r artist gwreiddiol.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae gerddi Sgwâr y Castell yn nodwedd eiconig yng nghanol ein dinas a bydd cyflwyno rhagor o wyrddni i'r ardal yn helpu i roi hwb i drawsnewidiad canol y ddinas, denu mwy o siopwyr a bod yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau."

Unwaith y bydd y gwaith wedi dechrau, rhagwelir y bydd yn cymryd tua 12 mis i gwblhau gerddi newydd Sgwâr y Castell.

Bydd y prif gontractwr ar gyfer y prosiect yn gyfrifol am y gwaith dylunio ac adeiladu technegol. Bydd gwaith priffyrdd, draenio, tirlunio ac adeiladu dau bafiliwn newydd a nodwedd ddŵr yn rhan o'r contract.

Mae gan gontractwyr tan 1 Mehefin i gyflwyno cynigion a gellir gweld cynlluniau gerddi Sgwâr y Castell ar-lein yn www.bit.ly/3BOriTC

 

Close Dewis iaith