Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaeth Llyfrgelloedd - polisi defnydd derbyniol y gwasanaethau digidol

1. Amodau defnydd

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn darparu mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus ar gyfer holl aelodau'r llyfrgell.

Mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn darparu WiFi am ddim drwy broses gofrestru sy'n gofyn i gwsmeriaid ddarparu cyfeiriad e-bost dilys a chytuno i amodau a thelerau cysylltiedig. Gofynnir i gwsmeriaid ailgofrestru bob 3 mis.

Gellir trefnu aelodaeth gwestai dan amgylchiadau eithriadol, yn ôl disgresiwn staff y llyfrgell. Ni chaniateir i unrhyw un ddefnyddio aelodaeth llyfrgell rhywun arall i gyrchu gwasanaethau digidol y llyfrgell. Gellir gwahardd aelodau ein llyfrgelloedd sydd heb dalu dirwyon na ffïoedd rhag defnyddio'r gwasanaethau digidol nes iddynt dalu'r rhain.

Mae angen caniatâd rhiant neu warcheidwad ar bobl ifanc dan 16 oed i ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall hyn fod yn ysgrifenedig neu ar lafar. Y rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am fonitro a rheoli sut mae'r plant a phobl ifanc dan ei ofal yn defnyddio'r rhyngrwyd a chyfrifiaduron y llyfrgell. Os oes gennych bryderon am y cynnwys y gall plentyn gael mynediad ato gan ddefnyddio cyfrifiadur llyfrgell neu WiFi, gofynnwn i rieni / ofalwyr fod yng nghwmni'r plant yn ystod eu hymweliad cyntaf â'r llyfrgell.

Mae cyfyngiad dyddiol diofyn o 2 awr y dydd ar ddefnydd o gyfrifiaduron y llyfrgell er mwyn sicrhau bod digon o gyfrifiaduron ar gael i bob defnyddiwr. Gellir estyn hyn yn ôl disgresiwn staff y llyfrgell yn dibynnu ar argaeledd.

Gall problemau technegol neu broblemau eraill rwystro mynediad at y gwasanaeth cyfrifiaduron ac ni all Llyfrgelloedd Abertawe dderbyn cyfrifoldeb am gyfrifiaduron sy'n gweithio'n araf neu nad ydynt ar gael, neu am unrhyw fethiant arall y tu hwnt i'w rheolaeth.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at gyfrifiaduron y llyfrgelloedd a WiFi yma: Wifi, cyfrifiaduron ac argraffu

2. Defnyddio'r rhyngrwyd

Hidlir mynediad at y rhyngrwyd yn y llyfrgelloedd ond nid yw hyn yn gwarantu y bydd pob safle sarhaus wedi'i rwystro. Yn yr un modd, gall fod rhai gwefannau wedi'u hidlo'n ddiangen. Os yw defnyddwyr yn credu y dylai gwefan gael ei rhwystro, neu os yw gwefan wedi'i rhwystro'n ddiangen, rhowch wybod i aelod o staff.

Atgoffir defnyddwyr eu bod yn dewis defnyddio rhwydwaith cyhoeddus a rennir. Nid yw'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn atebol am unrhyw golled, ddifrod neu anaf a ddioddefir, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i ddefnyddio'r cyfarpar neu drwy ddefnyddio ei gyfleusterau Wi-Fi (lle bo'n berthnasol).

Atgoffir defnyddwyr mai nhw sy'n gyfrifol wrth ddefnyddio'r cyfleusterau am amddiffyn yn erbyn bygythiadau firws ac y dylid diogelu cyfrifiaduron cartref, gliniaduron a dyfeisiau symudol yn ddigonol â'r meddalwedd diogelwch diweddaraf.

Gall defnyddwyr gadw gwaith drwy ei arbed ar ffon gof USB neu ddyfais allanol arall ond ni allant gadw unrhyw waith ar galedwedd y cyfrifiadur gan y gall fod ar gael dros dro i ddefnyddwyr eraill cyn bod y cyfrifiadur yn cael ei ailddechrau ar gyfer y sesiwn nesaf. 

3. Y rhyngrwyd a'ch cyfrifoldebau chi

Nid yw'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd, cywirdeb, dilysrwydd nac argaeledd yr wybodaeth y deuir o hyd iddi trwy'r rhyngrwyd. Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw asesu cywirdeb yr wybodaeth sydd ar gael drwy'r rhyngrwyd ac i sicrhau bod ei ddefnydd yn bodloni gofynion deddfwriaeth hawlfraint.

4. Defnydd gwaharddedig o wasanaethau digidol y llyfrgell

  1. Cael hyd i, arddangos neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd y gellid ystyried ei fod yn anweddus, yn bornograffig, yn sarhaus, yn hiliol neu'n ddilornus
  2. Dosbarthu hysbysebion heb wahoddiad neu 'sbam'
  3. Ceisio cael mynediad at gyfrifiaduron neu rwydweithiau eraill heb ganiatâd
  4. Newid gosodiadau'r cyfrifiaduron neu'r feddalwedd sydd arnynt neu gwneud unrhyw ymosodiad maleisus o unrhyw fath drwy'r rhwydwaith
  5. Unrhyw weithgaredd anghyfreithlon

Am amodau a thelerau llawn aelodaeth llyfrgelloedd, gan gynnwys defnydd o TGCh, gweler: Ymuno â Llyfrgelloedd Abertawe

Diogelu Data a chadw data personol

Mae Cyngor Abertawe'n parchu'ch hawl i breifatrwydd ac mae'n ymroddedig i'w hamddiffyn yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch aelodaeth Llyfrgelloedd Abertawe ac wrth ddefnyddio'i gwasanaethau digidol. Bydd Cyngor Abertawe'n dal, yn cynnal ac yn defnyddio'r data hwn yn unol â Pholisi Diogelu Data'r cyngor a thelerau Hysbysiad Preifatrwydd y cyngor: Hysbysiad preifatrwydd

Close Dewis iaith