Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2021: nodweddion poblogaeth

Mae'r dudalen yn darparu gwybodaeth ac ystadegau Cyfrifiad 2021 ynghylch nodweddion poblogaeth ac aelwydydd yn Abertawe yn ôl thema.

Ystadegau cryno yn ôl pwnc

Demograffeg a mudo

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, poblogaeth breswyl arferol Abertawe oedd 238,500, sy'n dangos gostyngiad bach o oddeutu 500 neu 0.2 y cant ers Cyfrifiad 2011.  Data (Excel doc) [18KB]
  • Roedd dros un o bob pump (20.5 y cant; 48,900) o breswylwyr Abertawe yn 65 oed neu drosodd, gydag oddeutu 17% (40,600) dan 16 oed.  roedd 149,000 (62.5%) yn 16-64 oed.  Data (Excel doc) [47KB]
  • Oedran canolrifol y bobl yn Abertawe yw 41 (Cymru 42, Lloegr 40).
  • Mae 50.7% o breswylwyr Abertawe (tua 121,000) yn fenywod, gyda 49.3% (117,500) yn wrywod Data (Excel doc) [18KB]
  • Amcangyfrifir bod gan 105,000 o aelwydydd o leiaf un preswylydd arferol yn Abertawe.  Roedd hyn yn gynnydd o oddeutu 1,500 o aelwydydd (1.4%) o 2011, sy'n cyferbynnu â'r gostyngiad bychan yn nifer y bobl rhwng Cyfrifiadau.  Data
  • Mae 97.8% o breswylwyr Abertawe yn byw mewn aelwydydd, gyda 2.2% (tua 5,200 o bobl) yn byw mewn sefydliadau cymunedol Data (Excel doc) [18KB]
  • Mae 41.2% o breswylwyr Abertawe sy'n 16 oed a throsodd (81,400 o bobl) yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, cyfran ychydig yn is na Chymru (43.8%) a Chymru a Lloegr (44.6%), gyda gostyngiad cyffredinol o oddeutu 5,400 (-6.2%) ers 2011.  Data (Excel doc) [20KB]
  • Mae 36,200 o aelwydydd un person yn Abertawe (34.4% o'r cyfanswm), cyfran uwch na Chymru (31.9%) a Chymru a Lloegr (30.2%); gyda 62,900 o aelwydydd un teulueraill (60.0%) - islaw cyfrannau yng Nghymru, a Chymru a Lloegr (y ddwy tua 63%).  Data (Excel doc) [21KB]
  • Yn Abertawe, cafodd tua 179,400 o breswylwyr arferol (75.2%) eu geni yng Nghymru, gyda 216,000 (90.6%) wedi'u geni yn y DU.  Mae nifer y preswylwyr yn Abertawe a aned y tu allan i'r DU wedi cynyddu 30.4% (5,200% yn fras) rhwng 2011 a 2021.  Yn Abertawe, Gwlad Pwyl oedd y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i'r DU yn 2021 (tua 2,200 neu 0.9% o'r holl breswylwyr arferol).  Data (Excel doc) [36KB]
  • Amcangyfrifir bod gan 187,200 o breswylwyr arferol (78.5%) basbort y DU (Cymru 77.2%).  Roedd gan tua 12,900 o breswylwyr arferol yn Abertawe (5.4%) basbort nad oedd yn un y DU (cyfartaledd Cymru 4.0%).  Yn Abertawe y pasbort mwyaf cyffredin nad yw'n basbort y DU oedd Gwlad Pwyl (2,300; 1.0% o breswylwyr arferol).  Nid oedd pasbort gan 38,400 o breswylwyr arferol yn Abertawe.  Data (Excel doc) [29KB]
  • Ar Ddydd y Cyfrifiad roedd 460 o breswylwyr tymor byr yn Abertawe (a ddiffinnir fel unrhyw un a anwyd y tu allan i'r DU a oedd yn bwriadu aros yn y DU am gyfnod o rhwng 3 a 12 mis, am unrhyw reswm), a 4,058 ar draws Cymru.  Yn Abertawe, roedd hyn yn llai na hanner ffigwr 2011, er mae'n debygol bod y pandemig wedi cael effaith ar hyn.  Data (Excel doc) [26KB]

 

Y Lluoedd Arfog

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, roedd tua 5,800 o breswylwyr Abertawe wedi gwasanaethu'n flaenorol yn lluoedd arfog y DU (3.0% o bawb dros 16 oed a throsodd), gyda 2,200 arall (1.1%) yn y lluoedd wrth gefn a/neu'r lluoedd rheolaidd.  Data (Excel doc) [26KB]
  • Mae 7,600 o aelwydydd Abertawe (7.3% o'r cyfanswm) yn cynnwys o leiaf un person a fu'n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn flaenorol.  Data (Excel doc) [26KB]

 

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd

  • Cofnododd y Cyfrifiad fod 91.4% o boblogaeth breswyl arferol Abertawe yn wyn (tua 218,100 o bobl).  Mae cyfran y bobl sydd ag ethnigrwydd nad yw'n wyn yn Abertawe wedi cynyddu o 6.0% yn 2011 (tua 14,300 person) i 8.6% yn 2021 (20,400).  Y grŵp ethnig mwyaf nad yw'n wyn yn Abertawe yn 2021 oedd 'Indiaidd' (tua 2,900 o bobl neu 1.2%) gydag 'Asiaidd arall', 'Caribïaidd' a 'Bangladeshaidd' hefyd dros 2,000.  Data (Excel doc) [19KB]
  • Mynegodd 67.0% o breswylwyr Abertawe (159,900 o bobl) hunaniaeth genedlaethol 'Cymreig yn unig' neu 'Gymreig a Phrydeinig yn unig' (Cymru 63.3%).  Mae hyn ychydig yn is na'r cyfrannau cyfatebol yn 2011 (Abertawe 69.3%; Cymru 64.6%).  Data (Excel doc) [19KB]
  • Prif iaith 95.2% o'r bobl 3 oed a throsodd yn Abertawe yw Cymraeg neu Saesneg, gydag ychydig dros 11,000 o bobl nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn brif iaith iddynt.  Yr ieithoedd eraill mwyaf yn Abertawe yw Pwyleg (1,863 neu 0.8%), Arabeg (1,109 / 0.5%), Bengaleg (gyda Sylheti a Chatgaya) (803) a Rwmaneg (773).  Data (Excel doc) [16KB]  Data (Excel doc) [26KB]
  • Dywedodd 41.3 y cant o breswylwyr Abertawe (tua 98,500) yn 2021 mai Cristnogaeth yw eu crefydd, gostyngiad o bron 14 pwynt canran ers 2011.  Dywedodd bron hanner (47.3%;112,700) poblogaeth Abertawe nad oedd ganddynt unrhyw grefydd yn 2021, i fyny o oddeutu 81,000 (34.0%) yn 2011.  Y grefydd leiafrifol fwyaf yn Abertawe yw Moslemiaeth (tua 7,700 neu 3.2%).  Data (Excel doc) [16KB]

 

Y Gymraeg

  • Roedd gan oddeutu 42,500 o bobl 3 oed a throsodd yn Abertawe (18.3%) rhai sgiliau'r Gymraeg, yn is na'r gyfran yng Nghymru (25.2%), a gostyngiad o oddeutu 2,600 (-5.8%) ers 2011 (Cymru - 5.0%).  Data (Excel doc) [17KB]
  • Mae 26,000 o bobl Abertawe (11.2% o'r holl blant 3 oed a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, gostyngiad o oddeutu 500 (-2.1%) o 2011. Mae'r cwymp hwn yn is na'r ffigur cyfwerth a gofnodwyd ar gyfer Cymru gyfan dros y cyfnod (-5.3%).  Data (Excel doc) [15KB]

 

Y farchnad Lafur a theithio i'r gwaith

  • Mae tua 100,900 o bobl yn Abertawe yn economaidd weithgar (ac eithrio myfyrwyr amser llawn), 51.0% o'r holl bobl 16 oed a throsodd (yn is na chyfrannau yng Nghymru a Chymru a Lloegr). Ychydig o newid cyffredinol sydd wedi bod yng nghyfanswm y preswylwyr mewn cyflogaeth yn Abertawe dros y deng mlynedd diwethaf, sydd wedi aros o gwmpas 96,000, er y bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio'n rhan-amser ac sy'n hunangyflogedig.  
  • Roedd cyfanswm o 90,500 o breswylwyr arferol yn Abertawe yn economaidd anweithgar yn 2021 (45.7% o'r holl bobl 16 oed a throsodd); canran uwch nag yng Nghymru (43.5%) a Chymru a Lloegr (39.4%).  Yn Abertawe, y rhesymau a ddewiswyd fwyaf dros anweithgarwch economaidd oedd wedi ymddeol (47,300 neu 23.9% o'r preswylwyr arferol o 16+ oed) ac astudio (16,600 neu 8.4%).  Fodd bynnag, bydd newidiadau o ran cwmpas oedran a chategorïau ymateb gweithgarwch economaidd ers 2011 yn effeithio ar ddadansoddi allbynnau.  Data (Excel doc) [19KB]
  • Y sector diwydiant eang unigol mwyaf yn Abertawe yw 'iechyd dynol a gweithgareddau gwaith cymdeithasol' (sef 18,300 o breswylwyr arferol neu 18.2% o'r holl breswylwyr arferol mewn cyflogaeth), wedi'i ddilyn gan 'fasnach cyfanwerthu a manwerthu' (15,700 neu 15.6%, er mae hyn wedi gostwng bron 2,000 ers 2011).  Mae tua 40,200 (40%) wedi'u cyflogi yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd/gofal cymdeithasol i gyd, cynnydd o oddeutu 3,500 (+9.7%) ers 2011. Mae nifer y preswylwyr yn Abertawe sy'n cael eu cyflogi mewn gweithgynhyrchu wedi gostwng eto, o oddeutu 7,400 yn 2011 i 6,000 yn 2021.  Data (Excel doc) [36KB]
  • Mae ychydig dros 20,000 (19.9%) o breswylwyr Abertawe sydd wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau 'proffesiynol'.  Mae gan Abertawe gyfrannau uwch na'r cyfartaledd (na Chymru) yn y galwedigaethau 'Proffesiynol', 'Gweinyddol ac ysgrifenyddol' a 'Gwerthiannau a gwasanaethau cwsmeriaid', a chyfrannau is yn y swyddi 'Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion', 'Galwedigaethau crefftau medrus' a 'Gweithredwyr Prosesau, offer a pheiriannau'.  Data (Excel doc) [16KB]
  • Mae'r data teithio i'r gwaith yn dangos cynnydd sydyn yn nifer y bobl mewn cyflogaeth sy'n gweithio'n bennaf gartref neu o'r cartref, gan gynyddu o oddeutu 3,900 yn 2011 (3.7% o holl breswylwyr Abertawe sydd mewn cyflogaeth) i 25,500 (25.3%) ym mis Mawrth 2021 - cysylltiad amlwg ag effeithiau'r (o 2020) pandemig. 
  • O ran y dull teithio i'r gwaith, gostyngodd nifer y bobl yn Abertawe a oedd yn teithio'n bennaf mewn car (fel gyrrwr neu deithwyr) o 77,700 yn 2011 (75.6% o'r holl gyflogaeth) i oddeutu 61,600 (61.2%) yn 2021.  Gostyngodd y nifer a oedd yn teithio i'r gwaith ar drên neu ar fws hefyd, o 6,800 i 3,300 rhwng 2011 a 2021.  Data (Excel doc) [16KB]

 

Tai

  • Yn 2021, roedd 34.5% o aelwydydd yn Abertawe (tua 36,200) yn byw mewn llety ar wahân, yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru (32.1%) a Chymru a Lloegr (31.5%).  Roedd cyfrannau is yn byw mewn tai teras (25.4% / tua 26,700) a thai ar wahân (24.0% / 25,200).  Roedd 15.9% (16,600) o aelwydydd Abertawe yn byw mewn fflat, fflat ddeulawr neu randy; yn uwch na Chymru (12.5%) ond yn is na Chymru a Lloegr (21.7%).  Data (Excel doc) [16KB]
  • O ran deiliadaeth, roedd 62.3% (65,400) o aelwydydd yn Abertawe yn berchen ar y llety yr oeddent yn byw ynddo, gydag 19.1% (20,000) o aelwydydd yn rhentu'n gymdeithasol (yn uwch na'r cyfrannau ar gyfer Cymru, 16.5%, a Chymru a Lloegr, 17.1%) a 18.0% yn rhentu'n breifat (18,900).  Mae nifer y aelwydydd sy'n rhentu'n breifat yn Abertawe wedi cynyddu tua 3,600 neu 24% ers 2011, yn unol â thueddiadau cenedlaethol.  Data (Excel doc) [17KB]
  • Mae ystadegau'r raddfa feddiannaeth yn dangos bod gan nifer a chyfran lai o aelwydydd yn Abertawe lai o ystafelloedd gwely nag oedd eu hangen yn 2021 (2.3%, neu tua 2,400 o aelwydydd) o'u cymharu â 2011 (3.3%).  Mae cyfrannau Abertawe a Chymru yn debyg ond mae'r ddwy yn is na chyfartaledd Cymru a Lloegr (4.3% yn 2021).  Data (Excel doc) [15KB]
  • Yn Abertawe, roedd gan 8.1% (8,500) o aelwydydd un neu ddwy ystafell (Cymru 6.6%, Cymru a Lloegr 10.9%); Roedd gan 75.0% (78,700) dair, pedair neu bump ystafell (yn agos at gyfartaleddau cenedlaethol); ac roedd gan 16.9% (17,700 o aelwydydd) chwech ystafell neu fwy. Roedd Cyfrifiad 2021 wedi defnyddio data Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i gyfrif nifer yr ystafelloedd mewn annedd, sy'n gwahaniaethu mewn sawl ffordd o'r dull a ddefnyddiwyd yn 2011 gan gyfyngu felly ar gymaroldeb dros amser.  Data (Excel doc) [16KB]
  • Adroddodd bron pob aelwyd yn Abertawe ei fod wedi cael gwres canolog yn 2021 (99.1%), gyda llai na 1,000 o aelwydydd hebddo.  Roedd 80.3% o aelwydydd Abertawe'n defnyddio prif gyflenwad nwy yn unig, yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru (71.6%) a Chymru a Lloegr (73.8%).  Roedd 0.6% (660) o aelwydydd Abertawe yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell ynni adnewyddadwy, yn is na Chymru (1.1%) a Chymru a Lloegr (0.9%).  Data (Excel doc) [16KB]
  • Yn 2021, roedd 22.6% (tua 23,800) o aelwydydd yn Abertawe heb geir neu faniau (2,900 neu 10.9% yn is nag yn 2011).  Roedd nifer yr aelwydydd yn Abertawe a oedd ag un car neu fan wedi aros yn ddigyfnewid ar ychydig o dan 45,000, er i'r nifer â 2 neu fwy o geir neu faniau gynyddu tua 4,500 (+14.2%), yn unol â thueddiadau cenedlaethol.  Data (Excel doc) [15KB]

 

Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rywedd

  • Roedd cwestiynau'r cyfrifiad newydd ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn gwestiynau gwirfoddol a ofynnwyd i'r rheini a oedd yn 16 oed a throsodd.
  • O ran cyfeiriadedd rhywiol, roedd tua 175,700 o bobl (88.8%) yn Abertawe wedi nodi eu bod yn syth neu'n heterorywiol yng Nghyfrifiad 2021, ychydig yn is na'r cyfartaleddau ar gyfer Cymru a Chymru a Lloegr (y ddau yn 89.4%).  Roedd tua 6,700 o bobl (3.4%) yn Abertawe yn uniaethu â chyfeiriadedd LHD+ ("Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol" neu "Cyfeiriadedd rhywiol arall"); ychydig yn uwch na Chymru (3.0%) a Chymru a Lloegr (3.2%).  Nid oedd y 15,400 o bobl eraill yn Abertawe (7.8%) wedi ateb y cwestiwn.  Data (Excel doc) [17KB]
  • Roedd y cwestiwn hunaniaeth rhywedd yn gofyn "A yw'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'r rhyw a bennwyd i chi pan gawsoch eich geni?" Yn gyffredinol, roedd 93.5% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd yn Abertawe wedi ateb y cwestiwn.  Roedd cyfanswm o oddeutu 184,200 o bobl yn Abertawe (93.1%) wedi ateb "Ydy" ac 864 (0.4%) wedi ateb "Nac ydy" (Cymru 0.4%; Cymru a Lloegr 0.5%).  O'r cyfanswm hwn, atebodd 320 o bobl yn Abertawe (0.2%) "Nac ydy" ond ni ddarparwyd ymateb ysgrifennu; roedd 146 (0.1%) yn uniaethu fel dyn traws; roedd 160 (0.1%) yn uniaethu fel menyw draws; a 238 (0.1%) yn uniaethu fel anneuaidd neu cofnodwyd hunaniaeth rhywedd wahanol ganddynt.  Data (Excel doc) [17KB]

 

Addysg

  • Roedd tua 51,800 o blant ysgol a myfyrwyr amser llawn yn Abertawe yn 2021, o gyfanswm o 227,100 o breswylwyr arferol pum mlwydd oed a throsodd (22.8%).  Mae hyn yn uwch na ffigyrau cyfatebol ar gyfer Cymru (19.9%) a Chymru a Lloegr (20.4%), sy'n debygol o fod yn bennaf oherwydd prifysgolion lleol.  Data (Excel doc) [15KB]
  • Mae'r cyfrifiad yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor - a ddiffinnir fel y cyfeiriad yr oedd myfyrwyr yn bwriadu aros yno'n rheolaidd yn ystod y tymor yn ystod y flwyddyn academaidd, hyd yn oed os nad oeddent yno ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, yn genedlaethol roedd peth tystiolaeth o newidiadau i'r boblogaeth yn ystod y tymor o ganlyniad i bandemig COVID-19.
  • Yn 2021, roedd gan dros 100,000 o breswylwyr yn Abertawe (51%) gymwysterau ar Lefel 3 neu uwch (dwy neu fwy Safon Uwch neu gyfwerth ac uwch).  Data (Excel doc) [16KB]
  • Roedd gan 32.8% o breswylwyr arferol Abertawe a oedd yn 16 oed a throsodd (64,800 o bobl) gymwysterau Lefel 4 neu uwch (er enghraifft, Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-radd);  rhwng y cyfrannau yng Nghymru (31.5%) a Chymru a Lloegr (33.8%).  Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu tua 13,800 (+27%) yn Abertawe ers 2011, yn fras yn unol â thueddiadau cenedlaethol.
  • Mae'r cyfrannau â'r lefel cymhwyster uchaf ar Lefel 1 neu 2 wedi gostwng ers 2011.  Fodd bynnag, mae'r nifer â Phrentisiaethau fel eu cymhwyster uchaf wedi cynyddu; yn Abertawe tua 3,000 neu 36%.
  • Yn Abertawe, dywedodd bron un o bob pum person 16 oed a throsodd (18.9% neu 37,300) nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau, eto rhwng Cymru (19.9%) a chyfartaleddau Cymru a Lloegr (18.2%).  Ond mae'r ffigwr hwn wedi gostwng oddeutu 10,000 (21%) yn Abertawe ers Cyfrifiad 2011.  Data (Excel doc) [16KB]

 

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl

  • Yn Abertawe, adroddodd tua 113,800 o bobl (47.7%) bod eu hiechyd yn dda iawn, ychydig yn uwch na Chymru (46.6%) a Chymru a Lloegr (47.5%), gyda 73,800 yn rhagor o bobl (30.9%) yn adrodd am iechyd da, ychydig yn is na'r cyfrannau cyfatebol yng Nghymru (32.4%) a Chymru a Lloegr (33.6%).
  • Fodd bynnag, mae'r nifer a'r gyfran sy'n adrodd am iechyd gwael neu wael iawn yn Abertawe, sef 17,500 neu 7.3%, yn uwch na Chymru (6.9%) ac yn uwch eto na Chymru a Lloegr (5.2% yn 2021).  Data (Excel doc) [21KB]
  • Yn Abertawe, roedd cyfran y bobl anabl (o dan y Ddeddf Cydraddoldeb) yn 22.4% (53,500) yn 2021, yn uwch na Chymru (21.6%) a Chymru a Lloegr (17.5%).  Newidiodd cwestiwn 2021 o 2011 er mwyn casglu data a oedd yn cyd-fynd yn agosach â'r diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).  Roedd gan 15,600 yn rhagor o bobl yn Abertawe (6.6%) gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor ond nid yw'r gweithgareddau  beunyddiol yn gyfyngedig (nid yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb).  Data (Excel doc) [21KB] 
  • Amcangyfrifir bod 24,700 o breswylwyr arferol yn Abertawe dros 5 oed a throsodd (10.9%) yn darparu gofal di-dâl yn 2021, ychydig yn uwch na Chymru (10.5%) a chyfartaleddau Cymru a Lloegr (8.9%).  Gostyngodd y cyfanswm sy'n darparu gofal di-dâl yn Abertawe tua 5,600 neu 18.6% ers 2011, yn unol â thueddiadau cenedlaethol yn fras.  Data (Excel doc) [21KB]
  • Defnyddiwyd cyfraddau wedi'u safoni yn ôl oedran (ASP) ar gyfer data iechyd Cyfrifiad 2021; maent yn caniatáu ar gyfer cymharu rhwng poblogaethau dros amser ac ar draws daearyddiaethau, gan eu bod yn cyfrif am wahaniaethau ym maint y boblogaeth a'r strwythur oedran.

 

Mae rhestr lawn o'r tablau data Crynodeb Pwnc fesul thema ar gael yma (Word doc) [18KB].  Mae'r tablau unigol ar gael i'w gweld neu eu lanlwytho isod, wedi'u rhestru yn nhrefn rhif cyfeirnod y tabl.  Mae'r tablau'n cynnwys data Cyfrifiad 2021 (niferoedd a chanrannau) ar gyfer Abertawe, yn ogystal â Chymru a Chymru a Lloegr (at ddibenion cymharu), ynghyd â dolenni i fetadata'r SYG ar gyfer pob tabl.

Rydym yn bwriadu cynnal dadansoddiad manylach o bynciau ac ystadegau Cyfrifiad 2021, gan gynnwys tueddiadau ac amrywiadau lleol, cyn gynted â phosib. 

Yn y cyfamser, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ddata Cyfrifiad 2021.

Close Dewis iaith