Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau y gofynnir gan bobl ynglŷn â chladdu ac amlosgi

Amlosgiad

Faint o bobl sy'n defnyddio amlosgiad heddiw ym Mhrydain Fawr?

Ers 1968, pan wnaeth nifer yr amlosgiadau ragori ar gladdedigaethau am y tro cyntaf, mae nifer yr amlosgiadau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae ffigurau presennol yn awgrymu bod amlosgiadau yn cyfrif am oddeutu 70% o angladdau.

A oes unrhyw grwpiau crefyddol yn gwahardd amlosgiad?

Mae pob enwad Cristnogol, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig yn caniatáu amlosgiad, ynghyd â Siciaid, Hindŵiaid, Parsïaid a Bwdyddion . Ond, mae amlosgiad wedi'i wahardd gan Iddewon Uniongred a Moslemiaid.

A yw amlosgiad yn ddrytach na chladdedigaeth?

Nac ydyw. Yn gyffredinol, mae cost bedd yn ddrytach o lawer na'r tâl a godir ar gyfer amlosgiad, serch hynny mae costau angladd yn debyg ar gyfer y ddau wasanaeth. Yr unig dâl ychwanegol a godir ar gyfer amlosgiad yw pan na fydd marwolaeth wedi'i chyfeirio at grwner a bydd angen talu dau feddyg i lofnodi'r tystysgrifau priodol. Nid yw hyn yn berthnasol i gladdedigaeth.

Pa seremoni grefyddol a allai gael gydag amlosgiad?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer claddedigaeth ac amlosgiad yr un peth ar wahân i'r brawddegau claddu. Gall y gwasanaeth cael ei gynnal yn eich man addoli gyda gwasanaeth claddu byr yng nghapel yr amlosgfa neu gallwch gael y gwasanaeth cyfan yng nghapel yr amlosgfa. Fel arall, os byddai'n well gennych, gallwch gael seremoni sifil neu ddim gwasanaeth o gwbl.

Sut mae amlosgiad yn cael ei drefnu?

Mae'r Rheoliadau Amlosgi'n gymhleth ac mae nifer o bobl yn cysylltu â threfnydd angladdau ar unwaith ar ôl i rywun farw i ofyn iddo drefnu amlosgiad. Bydd y trefnydd angladdau yn sicrhau bod yr holl ffurflenni statudol angenrheidiol ar gyfer amlosgiad yn cael eu casglu a'u cyflwyno i'r amlosgfa.

A all amlosgiad gael ei drefnu heb ddefnyddio trefnydd angladdau?

Gall. Gall yr ysgutor neu'r perthynas agosaf drefnu'r gwasanaeth amlosgi. Bydd yr awdurdodau amlosgi'n rhoi cyngor i bobl sy'n trefnu amlosgiad heb ddefnyddio trefnydd angladdau.

A all perthnasau wylio'r arch yn cael ei rhoi yn yr amlosgwr?

Gallant. Mae gan rai amlosgfeydd ardal wylio sy'n edrych dros yr amlosgwr, lle gallwch wylio'r arch yn cael ei rhoi yn yr amlosgwr. Mae gan eraill ystafell â CCTV sy'n galluogi pawb yn yr ystafell i weld yr arch yn cael ei rhoi yn yr amlosgwr yn glir ac mewn amlosgfeydd eraill, o bosib, caniateir grŵp dan oruchwyliaeth, i fod yn dyst i'r weithred olaf. Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r amlosgfa os ydych am fod yn dyst i hyn pan drefnir yr amlosgiad er mwyn i'r staff gael gwybod am hyn fel y gallant wneud y trefniadau priodol.

A yw'r arch yn cael ei llosgi gyda'r corff?

Ydy. Mae Egwyddorion Arweiniol yr Athrofa Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) yn nodi bod rhaid i'r corff a'r arch cael eu gosod yn yr amlosgwr ac yna bydd yr amlosgiad yn dechrau. Ni chaniateir agor neu ymyrryd â'r arch sy'n cynnwys corff, ar wahân i amgylchiadau eithriadol, ac yna dim ond gyda chaniatâd uniongyrchol ac ym mhresenoldeb ymgeisydd yr amlosgiad (fel arfer yr ysgutor neu'r berthynas agosaf).

Pa mor fuan ar ôl y gwasanaeth y cychwynnir yr amlosgiad?

Mae Egwyddorion Arweiniol ICCM yn nodi bod rhaid i'r arch a'r corff cael eu gosod yn yr amlosgwr a chychwyn rr amlosgiad o fewn 72 awr ar ôl gwasanaeth yr angladd. Lle na chynhelir yr amlosgiad ar yr un diwrnod, caiff ymgeisydd yr amlosgiad ei hysbysu o hyn.

Mae hyn yn golygu, dan amgylchiadau arferol, bod yr amlosgiad yn cael ei gynnal yn fuan ar ôl y gwasanaeth ac yn sicr ar yr un diwrnod. Serch hynny, pan gynhelir gwasanaeth yn hwyr yn y dydd neu fod nifer cyfyngedig o wasanaethau wedi'u trefnu, gall yr amlosgiadau ddigwydd o fewn y cyfnod 72 awr. Ni chaniateir cadw eirch, oni bai fod yna gyfleusterau storio hylan a diogel ar gael. Mae buddion i'r gymuned o hyn yn cynnwys effaith ostyngol ar yr amgylchedd gan fod llai o danwydd ffosil yn cael ei ddefnyddio, a cheir defnydd effeithlon o beiriannau a chyfarpar.

Sut cedwir gweddillion a amlosgwyd ar wahân?

Dim ond un arch y gall amlosgwr ei derbyn ar y tro ac mae'r holl lwch yn cael ei gasglu o'r amlosgwr cyn yr amlosgiad nesaf. Defnyddir cerdyn adnabod trwy gydol yr holl broses i sicrhau adnabyddiaeth gywir.

Beth sy'n digwydd i'r llwch ar ôl amlosgiad?

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud ag amlosgiad yn gofyn bod llwch yn cael ei waredu yn unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig yr ymgeisydd (fel arfer yr ysgutor neu'r berthynas agosaf). Mae gan y mwyafrif o amlosgfeydd nifer o opsiynau sy'n cynnwys gwasgaru neu gladdu yn yr ardd goffa, eu gosod mewn colomendy neu eu gosod mewn claddgell deuluol fach neu gilfach. Gellir gwasgaru mewn amlosgfa arall neu leoliad wedi'i ddewis gan y teulu. D.S. yn yr achosion hyn dylid cael caniatâd addas gan yr awdurdod priodol neu'r perchennog tir.

Mae opsiynau hefyd ar gael ar gyfer cofebion sy'n gallu cynnwys cyrbau, placiau a meinciau coffa gyda phlaciau arnynt. Y ffurf symlaf o gofeb yw arysgrif mewn llyfr coffa. Bydd swyddfa weinyddu'r amlosgfa yn darparu manylion o'i chyfleusterau.

Gall llwch gael e gladdu mewn beddau teuluol. Fel arall, efallai gallech brynu bedd newydd mewn mynwent ar gyfer gweddillion a amlosgwyd.

Nid oes angen gwneud penderfyniad brys ynglŷn â man gorffwys terfynol y llwch gan fod y mwyafrif o amlosgfeydd â'r cyfleusterau i gadw'r llwch nes gwneud penderfyniad am yr hyn i'w wneud ag ef. Os nad ydych yn cysylltu â'r amlosgfa i roi gwybod iddynt ynghylch yr hyn i'w wneud â'r llwch, efallai cewch lythyr ganddi'n gofyn i chi a ydych wedi dod i benderfyniad. Os nad ydych yn barod, yna rhowch wybod i'r amlosgfa bod angen mwy o amser arnoch chi (mae'n bosib y codir tâl am hyn). Os na fydd yr amlosgfa'n cael ateb i'w llythyr, gall wasgaru neu gladdu'r llwch yn gyfreithlon ar ei thir ar ôl iddi roi pythefnos o rybudd ysgrifenedig.

A all mwy nag un corff cael ei amlosgi ar yr un pryd?

Na. Caiff pob amlosgiad ei gynnal ar wahân. Mae'r agoriad, lle mae'r arch yn mynd drwyddo i'r amlosgwr, a'r siambr amlosgi o faint a fydd yn derbyn yn arch yn ddiogel yn unig.Serch hynny, ceir rhai eithriadau, er enghraifft pan fydd mam a baban neu efeilliaid bychain, ar yr amod bod y berthynas agosaf neu'r ystgutor wedi cyflwyno cais penodol i wneud hyn.

Mae'r mwyafrif o amlosgfeydd yn croesawu ymweliadau cyhoeddus o'r gweithdrefnau 'y tu ôl i'r llenni' i geisio hysbysu'r cyhoedd o'r broses amlosgi.

A yw'r eirch yn cael eu gwerthu yn ôl i'r trefnydd angladdau i'w ail-ddefnyddio?

Nac ydynt. Amlosgir yr arch a'r corff ynddi gyda'i gilydd. Bydd achlysuron lle mae'r meirw neu deulu'r meirw wedi dewis defnyddio arch gardbord ar gyfer yr amlosgiad. Ambell waith pan ddigwyddir hyn bydd y teulu'n dewis arch neu gynhwysydd mwy deniadol ar yr elor yn ystod y gwasanaeth. Os felly, bydd teuluoedd yn dewis naill ai elorwisg (brethyn sy'n gorchuddio'r arch gardbord) neu 'arch gocŵn' (cragen allanol sy'n gorchuddio'r arch gardbord), neu byddan nhw'n addurno'r arch gardbord eu hunain. Nid amlosgir yr elorwisg na'r cocŵn. Mae'n bwysig nodi NAD yw'r elorwisg na'r cocŵn yn cynnwys corff y meirw, gorchuddion arwynebol i arch gardbord yn unig ydynt.

A allaf ymweld ag amlosgfa i weld yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni?

Gallwch. Bydd pob amlosgfa yn trefnu'r fath ymweliad os roddir rhybudd iddynt ymlaen llaw. Gallwch ymweld â'r amlosgfa pan fydd amlosgiad neu beidio, dewiswch chi. Mae'r polisi drws agored hwn yn helpu i chwalu'r mythau sydd wedi'u hegluro uchod. Wrth weld y broses amlosgi, gellir tawelu meddwl yr ymwelwr fod pob amlosgiad yn cael ei gynnal yn unigol, bod yr eirch yn cael eu hamlosgi gyda'r meirw ynddynt a bod hunaniaeth yn cael ei chynnal trwy gydol y broses fel y gall teulu fod yn sicr eu bod yn derbyn y llwch cywir.

Ble gellir cael mwy o wybodaeth am amlosgiad?

Mae'r Institute of Cemetery and Crematorium Management (ICCM) a'r Federation of Burial and Cremation Authorities (FBCA) yn darparu gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar broses yr amlosgiad.

Claddedigaeth

Pam caiff beddau eu cloddio mor ddwfn? (Mae'n drallodus gweld yr arch yn cael ei gollwng mor ddwfn)

Mae'n rhaid cloddio beddau i ddyfnder digonol er mwyn caniatáu claddedigaethau yn y dyfodol. Felly mae'n rhaid cloddio'r bedd yn ddigon dwfn i ganiatáu lle, nid yn unig i'r arch/gasged a fydd yn cael ei chladdu, ond hefyd i sicrhau'r gofynion cyfreithiol i beidio â tharfu ar bridd, sydd ei angen rhwng pob arch, a'r swm o bridd sydd ei angen i orchuddio'r gladdedigaethddiwethaf.

Pam bod cynifer o wahanol fathau o feddau ar gael mewn rhai amlosgfeydd ?

Mae rhai awdurdodau wedi cyflwyno amrywiaeth eang o feddau i gynnig cynifer o opsiynau â phosib i deuluoedd wrth iddynt drefnu claddedigaeth anwylyn. I lawer, y bedd lawnt yw'r opsiwn gorau ond i eraill, bydd angen arnynt gofeb sy'n fwy traddodiadol, coeth a mwy. Mae claddedigaeth uwchben y ddaear mewn claddgell ar gael mewn ambell fynwent, ynghyd â chladdgell, beddau brics a fawsolea. Mater o ddewis yw hyn.

Mae gen i fedd lawnt.Pam na allaf osod cofeb dros arwyneb y bedd?

Roedd y bedd lawnt wedi'i ddylunio ar egwyddor y bedd rhyfel (i gael carreg goffa o faint cyfyngedig, ar ben uchaf y bedd gyda gweddill y bedd wedi'i osod fel lawnt). Mae'r dull hwn yn gwneud y defnydd gorau o'r ardal gyfyngedig ar gyfer claddedigaeth. Yn ychwanegol i hyn mae cynnal a chadw yn haws i'w gyflawni trwy ddefnyddio peiriannau torri lawnt mawr i gadw'r ardal yn daclus. Gwerthir y beddau hyn ar yr amod y codir cerrig coffa arddull lawnt yn unig. Caniateir cerrig coffa llawn ar feddau traddodiadol yn unig.

Rhaid cymryd gofal wrth ddewis y math o fedd. Os hoffech gael cofeb fwy traddodiadol a mawr, ni ddylech ddewis bedd lawnt.

A yw'r beddau'n cael eu llenwi'n syth yn dilyn yr angladd neu ydynt yn cael eu llenwi'r diwrnod canlynol?

Caiff beddau eu paratoi ar gyfer claddedigaeth o leiaf un diwrnod cyfan cyn yr angladd a chânt eu gorchuddio dros nos. Mae Egwyddorion Arweiniol yr ICCM ar gyfer gwasanaethau claddu'n nodi bod angen ôl-lenwi'r bedd yn gyfangwbl a'i wneud yn daclus yn syth ar ôl i'r galarwyr adael ymyl y bedd. Cwblheir y gwaith hwn ar ddiwrnod y gladdedigaeth ac ni ddylai eirch gael eu gadael yn heb eu gorchuddio dros nos.

Rwy'n deall fod rhai pobl yn aros wrth i'r bedd gael ei ôl-lenwi. Pam?

Yn ôl rhai diwylliannau; rhaid i'r bedd gael ei ôl-lenwi pan fydd y teulu'n bresennol neu efallai y byddant yn dymuno ôl-lenwi'r bedd eu hunain. Pan fydd teuluoedd am wneud hyn, mae'n hanfodol bod y fynwent yn cael gwybod am eu hanghenion pan drefnir yr angladd. Bydd hyn yn sicrhau y bodloni'r dymuniadau'r teulu a'u bod yn ddiogel yn ystod y broses ôl-lenwi.

A all unrhyw un fod yn dyst i ôl-lenwi'r bedd?

Gall, ond mae'n rhaid rhoi gwybod i'r fynwent cyn cynnal yr angladd er mwyn iddynt baratoi ymlaen llaw.

Mae gen i fedd lawnt. Pryd gallaf roi carreg goffa arno?

Mewn mynwentydd lle mae sylfeini concrit parhaol wedi'u gosod, gall cerrig coffa gael eu codi ar feddau lawnt 'bron' ar unwaith.

Lle darperir sylfeini unigol ar gyfer cofeb lawnt, yn ddelfrydol, caiff y rhain eu lleoli ar ddaear heb ei gloddio ar ben uchaf y bedd. Yn yr amgylchiadau hyn a chyda chymorth angorau a gosodiadau daear sy'n cydymffurfio â Chod Ymarfer Argymelledig Cymdeithas Genedlaethol y Seiri Meini (NAMM), mae'n bosib codi carreg goffa bron yn syth.

Mewn mynwentydd lle codir carreg goffa yn uniongyrchol ar ardal y bedd a gloddir, gall rheoliadau'r fynwent ddynodi cyfnod o amser, cyn caniatáu i'w gosod, i adael i'r ddaear sefydlogi. Yn ystod y cyfnod hwn dylai staff y fynwent arsylwi ar unrhyw suddiant a geir i'r tir a'i ôl-lenwi ag uwchbridd, fel bo'r angen, nes bod unrhyw suddiant yn darfod. Gall y cyfnod amser hwn amrywio ar draws y wlad oherwydd gwahanol fathau ac amodau pridd. Hyd yn oed ar ôl i'r tir sefydlogi mae'n ddoeth sicrhau bod eich saer meini coffa yn mabwysiadu côd ymarfer NAMM fel y nodir uchod.

Pam gwerthwyd y bedd i mi am gyfnod penodol o amser? - Rwyf am gadw'r bedd am byth!

Mae'r gyfraith yn nodi ni all beddau gael eu gwerthu am fwy na 100 mlynedd ac ni all awdurdodau fynd yn groes i'r gyfraith honno. Serch hynny,  mae'r gyfraith yn caniatáu estyn y berchnogaeth, ac mae rhai awdurdodau yn ysgrifennu at berchnogion pob pum mlynedd ac yn cynnig y cyfle iddynt  'ychwanegu' at eu prydles. Fel hyn, gall y bedd aros yn y teulu am gyhyd ag y dymunant ond ni roddir perchnogaeth am gyfnod o fwy nag 100 mlynedd ar unrhyw un adeg. Hyd yn oed lle na chynigir yr opsiwn ychwanegol i chi (neu'ch teulu) gallwch adnewyddu'ch hawl ar ddiwedd y brydles gyfredol.

Fi sydd biau'r bedd - a all unrhyw un arall gael ei gladdu ynddo os nad wyf yn fodlon iddynt wneud hynny?

Na. Ni chaniateir agor bedd heb ganiatâd ysgrifenedig perchennog cofrestredig y bedd. Yr unig eithriad i hyn yw pan fydd y perchennog cofrestredig yn cael ei gladdu, pan ddigwyddir hyn, ni fydd angen awdurdod ysgrifenedig. Mae'r gyfraith yn diogelu eich hawliau fel perchennog cofrestredig y bedd.

Yr wyf wedi cael gwybod bod y bedd ar gyfer dau berson - dim ond un person sydd yn y bedd ar hyn o bryd ac rwyf am i ddwy gladdedigaeth arall gael rhoi yn y bedd?

Pan brynir bedd ar gyfer dwy gladdedigaeth lawn, ar gyfer y gladdedigaeth gyntaf mae'n rhaid cloddio i ddyfnder lle bydd yna le i'r ail gladdedigaeth. Mae yna ofynion cyfreithiol ynghyd swm y pridd sy'n rhaid ei adael uwchben yr arch olaf, ac felly, nid yw'n bosib gosod arch arall yn y bedd heb dorri'r gyfraith. Serch hynny, pan fydd bedd yn llawn eirch, gellir claddu casgenni neu wrnau sy'n cynnwys llwch yn y bedd.

Beth sy'n digwydd pan fydd y brydles yn dod i ben?

Pan brynir bedd rydych yn prynu'r Hawl i Gladdu Unigryw ar gyfer y bedd hwnnw am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, dylech gael yr opsiwn o adnewyddu'r hawliau am gyfnod pellach. Mae'n hynod bwysig eich bod yn rhoi gwybod i swyddfa'r fynwent pe baech yn newid eich cyfeiriad, fel arall, efallai na fyddwch yn derbyn yr hysbysiad adnewyddu ar yr adeg briodol.

Hefyd, ar ddiwedd cyfnod yr hawl i godi a chynnal carreg goffa, bydd staff y fynwent yn ceisio cysylltu â chi i gynnig opsiwn i chi adnewyddu'r brydles. Os nad ydych am adnewyddu'r brydles neu ni all staff y fynwent gysylltu â chi, gall staff y fynwent symud unrhyw gerrig coffa ar ôl rhoi cyfnod penodol o rybudd i chi symud y garreg goffa eich hun. Pe baech yn penderfynu adnewyddu'r brydles, gall hyn fod ar yr amod bod y garreg goffa yn derbyn archwiliad llawn a phrawf sefydlogrwydd a bod unrhyw ddiffygion yn cael eu hatgyweirio.

Pwy sy'n gyfrifol am y gofeb?

Er bod yr awdurdod claddu yn gyfrifol am gynnal a chadw'r fynwent mewn cyflwr diogel, mae cyfrifoldeb arnoch chi i gynnal eich cofeb mewn cyflwr diogel, trwy gydol cyfnod yr hawl i godi a chynnal cofeb. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gall staff y fynwent gymryd camau i wneud y garreg goffa'n ddiogel.

Mae staff y fynwent yn cynnal archwiliadau rheolaidd o gerrig coffa, a phan nodir bod un yn ansefydlog ac yn debygol o gwympo ac anafu rhywun, gellir cael ei hynysu, ei osod ar lawr neu gosodir rhywbeth i'w chynnal dros dro. Dan yr amgylchiadau hyn byddwch yn derbyn llythyr a'ch cyfrifoldeb chi fydd trefnu'r atgyweiriadau priodol. Os bydd eich cofeb dan warant o hyd, bydd y saer meini yn gyfrifol am gynnal unrhyw atgyweiriadau heb gost ychwanegol i chi. Os dewiswch anwybyddu'r hysbysiad a anfonir atoch, gall eich carreg goffa gael ei gosod ar lawr a phan ddaw'r brydles i ben, ni fydd caniatâd gennych iadnewyddu'r brydles nes bod yr atgyweiriadau wedi'u cwblhau. Os ni chwblhawyd unrhyw atgyweiriadau, ac ar ôl derbyn hysbysebiad ychwanegol, gall y garreg goffa cael ei symud yn gyfreithlon o'r fynwent.

Hefyd mae dyletswydd ar y saer meini i ddarparu cofeb o safon fasnachol a'i chodi'n ddiogel. Dylech fynnu bod y gofeb yn cael ei chodi yn unol â Chôd Ymarfer Argymelledig(NAMM) a gofyn am warantiad gan eich saer meini.

Beth sy'n digwydd petai / pryd bydd y perchnogion wedi marw?

Gall perchnogaeth yr hawl i gladdu unigryw mewn bedd gael ei throsglwyddo o'r perchennog ymadawedig trwy ystâd bersonol y perchennog hwnnw. Gall y dull o drosglwyddo fod yn gymhleth iawn ac er bod yna weithdrefn benodol i'w dilyn, rhaid ystyried pob achos yn unigol. Os oes rhaid i chi drosglwyddo perchnogaeth ar ôl i bob perchennog farw, bydd rhaid i chi gysylltu â swyddfa'r fynwent, lle bydd staff yn trefnu trosglwyddiad yn unol â'r gyfraith.

Pam na allaf gael yr hyn yr wyf yn dymuno ei gael ar y bedd?

Pan brynir bedd newydd, nid perchnogaeth y tir ei hyn sy'n cael ei brynu, yn hytrach yr hawl i gynnal claddedigaethau yn y bedd hwnnw. Mae'r hawliau hyn yn cael eu gwerthu, neu i fod yn gywir, eu 'cymeradwyo' ynghyd â'r hawliau i godi carreg goffa ar y bedd, yn unol â rheolau a rheoliadau'r fynwent. Mae'n bwysig eich bod yn dewis mynwent a fydd yn darparu'r math o gofeb rydych yn dymuno ei chael, gan fod rheoliadau yn gwahaniaethu o ardal i ardal. Gallwch wirio hyn drwy gysylltu â swyddfa'r fynwent a gwneud ymholiadau am y dewisiadau a'r opsiynau sydd ar gael.

Pam mae angen hawlen?

Cyn i garreg goffa gael ei chodi ar fedd, mae angen caniatâd ysgrifenedig y perchennog, ar hawlen/ffurflen gais, sy'n rhoi caniatâd i osod y garreg goffa arfaethedig. Mae'n rhaid i gerrig coffa gydymffurfio â rheoliadau'r fynwent ynglŷn â'i maint a'i gosodiadau. Hefyd mae'n rhaid gwirio sefydlogrwydd y garreg goffa dan reoliadau iechyd a diogelwch. Bydd rhaid i staff y fynwent wirio bod y garreg goffa yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac y byddai'n cael ei chodi'n ddiogel. I ryw raddau mae hyn yn helpu i amddiffyn eich buddiannau, serch hynny, chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r garreg goffa yn y dyfodol. Gallwch ofyn i'ch saer meini am warant saernïaeth neu fanylion ei yswiriant.

Bydd rhai awdurdodau yn rhoi Hawl i Godi a Chynnal Carreg Goffa ar wahân a gellir prynu'r hawl hon ar ôl  cyflwyno cais i godi carreg goffa. Gall awdurdodau eraill gyfuno'r Hawliau Cerrig Goffa â'r Hawliau Claddedigaeth.

Rwyf am gladdu llwch yn y bedd. Pam mae'n rhaid i mi benderfynu a fydd mwy o gladdedigaethau cyn y gall hyn gael ei wneud?

Mae yn erbyn y gyfraith i darfu ar weddillion dynol heb drwydded (gan gynnwys llwch sydd mewn casged neu wrn) ac felly, ni fydd mwy o gladdedigaethau'n bosib yn y bedd,  nes bod trwydded wedi'i sicrhau. Gall llwch gael ei gladdu ar waelod y bedd, felly ni therfir arno gan gladdedigaethau llawn ychwanegol. Serch hynny, gan fod rhaid cloddio'r bedd i'r dyfnder hwn codir tâl ychwanegol i agor y bedd.

Close Dewis iaith