Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae ein Cwtsh Cydweithio ar agor

Daeth llawer o bobl i ddigwyddiad lansio hwb newydd sy'n cynnig cyngor, cefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i greu'r Cwtsh Cydweithio yn yr amgueddfa.

Bydd ar agor yn ystod yr wythnos a dyma fydd cartref newydd Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned y cyngor.

Mae sefydliadau eraill yn bwriadu defnyddio'r hwb er mwyn cynnal sesiynau wythnosol neu sesiynau galw heibio achlysurol - er enghraifft, bydd Tîm Diogelwch Cymunedol yr heddlu yno ddydd Iau o 11am.

Ar ddydd Llun cyntaf bob mis cynhelir digwyddiad galw heibio mawr yno, gyda phartneriaid sy'n gweithio ym meysydd iechyd, lles, cyflogaeth, tlodi a thai yn bresennol.

Bydd sefydliadau eraill yno i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau y maent yn eu cynnal ar gyfer ystod amrywiol o gymunedau.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yr wythnos hon a daeth mwy na 20 o bartneriaid ynghyd, ac roedd llawer o breswylwyr yno hefyd.

 

Close Dewis iaith