Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Elusennau'n elwa o ddigwyddiadau codi arian cyn-Arglwydd Faer

Bydd dwy elusen yn y ddinas yn rhannu £10,000 annisgwyl diolch i ymdrechion codi arian y cyn-Arglwydd Faer, y Cynghorydd Mike Day.

Dirprwy Arglwydd Faer 2021-22, Y Cynghorydd Mike Day.

Bob blwyddyn mae gan Arglwydd Faer Abertawe gyfle i enwebu elusennau a fydd yn elwa o ddigwyddiadau codi arian a gynhelir ochr yn ochr ag ymrwymiadau ffurfiol a gweithgareddau eraill.

Cododd y Cynghorydd Mike Day, Arglwydd Faer y llynedd, £10,000 a fydd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng elusennau yn Abertawe - Zac's Place a Maggie's, yr elusen gofal canser yn Ysbyty Singleton.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Roedd hi'n fraint fawr cael y cyfle'r llynedd i wasanaethu pobl Abertawe fel eu llysgennad a'u Harglwydd Faer.

"Hoffwn ddweud diolch mawr i'r holl bobl a'm croesawodd ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymdrechion codi arian ar gyfer yr elusennau gwych a gefnogwyd gennym yn Abertawe.

"Mae pob un ohonynt yn gwneud gwaith anhygoel, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Rwy'n gwybod y bydd y cyfraniadau o Gronfa Elusen yr Arglwydd Faer yn cael eu defnyddio mewn ffordd wych."

Mae rhagor o wybodaeth am Maggie's ar gael yma: https://www.maggies.org/our-centres/maggies-swansea/

a gwybodaeth am Zac's Place ar gael ar Facebook yma: https://www.facebook.com/ZacsPlaceSwansea/?locale=en_GB

 

 

 

Close Dewis iaith