Toglo gwelededd dewislen symudol

Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol

Cymudo; Cymwysterau.

Cymudo

Mae data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn dangos yr integreiddio cryf rhwng marchnad lafur Abertawe a'i hawdurdodau cymdogol - Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr.  Mae dadansoddiad o batrymau teithio i'r gwaith yn awgrymu bod y llifoedd trawsffiniol mwyaf arwyddocaol yn digwydd i Abertawe o'r ardaloedd cyfagos hyn.  Yn 2022, Abertawe oedd â'r mewnlif net ail uchaf o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru (+11,100), y tu ôl i Gaerdydd yn unig.  Mae'r data hefyd yn dangos bod 87% o breswylwyr Abertawe wedi gweithio o fewn ardal yr awdurdod lleol, a Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd a Chaerdydd yn unig sydd â ffigur cyfatebol uwch yng Nghymru.

Tabl 6: Cymudo (Word doc) [25KB]

 

Cymwysterau

Mae ystadegau ar y cymwysterau uchaf sydd gan bobl o oedran gweithio hefyd ar gael o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol.  Mae data'r arolwg ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2022 yn awgrymu bod gan Abertawe gyfran uwch o breswylwyr oedran gweithio gyda chymwysterau hyd at Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (FfCRh) lefel 3 ac uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU.  Fodd bynnag, ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 â blynyddoedd blaenorol yn dilyn cyflwyno'r FfCRh a newidiadau i'r cwestiynau am gymwysterau yn yr APB.

Tabl 7: Cymwysterau (Word doc) [24KB]

Close Dewis iaith