Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Grŵp Cyflawni Isadeiledd - 21 Chwefror 2024

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni Isadeiledd ar gyfer Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar 21 Chwefror 2024 yn Neuadd y Ddinas. 

Roedd hwn yn gyfle i aelodau'r diwydiant twristiaeth lleol gael gwybod mwy am y CRhC newydd, gan gynnwys yr ymchwil a gyfeiriodd y cynllun, ei flaenoriaethau strategol a'r strwythur cyflawni.

Dilynwyd hyn gan ddiweddariad gan gydweithwyr yn yr adran Cynllunio Strategol ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) 2023-2038 a sut gall busnesau twristiaeth gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

Gallwch lawrlwytho copi o'r cyflwyniadau isod:

  • CRhC 2023-2026 - Steve Hopkins, Rheolwr Strategol ar gyfer Twristiaeth Marchnata a Digwyddiadau

DMP 2023-2026 Presentation (PDF) [3MB]
 

  • CDLlN 2023-2038 - Tom Evans, Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol

RLDP 2023-2038 Presentation (PDF) [1MB]

Er mwyn cofrestru ar gyfer yr ymgynghoriad cyfredol ac yn y dyfodol ar y CDLlN, ewch i'r porth ymgynghori a chofrestrwch (ar frig y dudalen ar y dde).

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y CDLlN, cysylltwch â'r Tîm Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol drwy e-bostio  cdll@abertawe.gov.uk.gov.uk neu ffonio 07814 105625.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y CRhC, cysylltwch â'r Tîm Twristiaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk 

I gael gwybodaeth am y grantiau cymorth busnes sydd ar gael gan Gyngor Abertawe, ewch i'n hadran Cyllid Busnes neu e-bostiwch busnes@abertawe.gov.uk

    Close Dewis iaith