Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfri'r dyddiau tan gynhadledd 'It's Your Swansea 2024'

Mae dros 1,000 o bobl eisoes wedi cofrestru i fynd i gynhadledd ac arddangosfa 'It's Your Swansea 2024'.

arena from the air

arena from the air

Mae'r digwyddiad am ddim sydd bellach yn ei bumed flwyddyn yn cael ei gynnal yn Arena Abertawe ddydd Iau 7 Mawrth. 

Mae'r gynhadledd yn dod â phobl, busnesau a sefydliadau ynghyd i rwydweithio, clywed gan arweinwyr y ddinas a chymryd rhan mewn sgyrsiau i helpu i lunio dyfodol Abertawe.

Mae rhaglen eleni'n cynnwys trafodaethau panel, cyhoeddiad pwysig gan elusen leol, rhwydweithio yn y neuadd arddangos a marchnad gwneuthurwyr.

Eleni, thema'r gynhadledd a gyflwynir gan 4 The Region mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yw Abertawe: Dinas Cyfleoedd.

Ceir pum parth arddangos yn y gynhadledd - creadigol a digidol, datblygiad a buddsoddiad, ynni a'r amgylchedd, Abertawe fel cyrchfan a pharth rhanbarthol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae rhaglen £1bn yn mynd rhagddo yn Abertawe i greu mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen i bobl leol a busnesau lleol.

"Mae prosiectau fel yr arena a distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd Penderyn yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa bellach wedi'u cwblhau, ac eleni bydd datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei orffen, caiff cynlluniau Theatr y Palace a Neuadd Albert eu hagor, a bydd  prosiect gwella mawr yn dechrau yng Ngerddi Sgwâr y Castell.

"Mae cymaint mwy i ddod hefyd wrth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat barhau â'u gwaith i drawsnewid Abertawe yn un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, mwynhau, astudio ac ymweld â hi.

"Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle gwych i bobl gael gwybod mwy am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a darganfod llawer o'r busnesau gwych, llawn ysbrydoliaeth yn Abertawe sy'n gwneud cymaint ar gyfer ein heconomi a chyflogaeth.

"Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, a bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at yr holl waith gwych sy'n digwydd er budd pobl leol wrth adael gwaddol hirdymor cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau i ddod."

Meddai Zoe Antrobus, rheolwr gyfarwyddwr 4theRegion, "Bydd sgyrsiau a digwyddiadau yn ystod y dydd yn amlygu'r cyfoeth o gyfleoedd sy'n bodoli'n lleol - swyddi gyda chyflogwyr lleol, cyllid i fusnesau a sefydliadau, cyfleoedd twf busnes, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a mwy. Mae llawer i fod yn falch ohono a llawer i'w ddarganfod."

Gan ei bod hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched y diwrnod wedyn a chyda Sul y Mamau ar y gorwel, mae ysbrydoli menywod yn flaenllaw yng nghynhadledd eleni.

Bydd y Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd Cyngor Abertawe, yn siarad yn y sesiwn agoriadol, a thrwy gydol y dydd bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan bobl fel yr hyfforddwr busnes, proffesiynol a phersonol, Joy Ogeh-Hutfield, Kim Mamhende - Pennaeth Staff yr elusen 'Centre for African Entrepreneurship' - a Fatima Lopez, llywydd undeb y myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr.

Eleni, noddir y gynhadledd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coastal Housing, y cyfrifwyr Bevan & Buckland ac Edmundson Electrical.

Ewch yma i gofrestru'ch lle: www.4theregion.org.uk/swansea-conference-2024

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith