Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dewch i gwrdd â masnachwyr Y Stryd Fawr, stryd sydd wedi'i gweddnewid

O siopau finyl, coffi a gemwaith i fwytai, bariau ac orielau celf, mae dwsinau o fasnachwyr yn ganolog i'r gwaith presennol o drawsnewid Y Stryd Fawr yng nghanol dinas Abertawe.

4 The Region team

4 The Region team

Mae dros £100m yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal diolch i gyfuniad o gynlluniau sy'n cael eu harwain gan Gyngor Abertawe, Coastal Housing a sefydliadau eraill.

Ymysg y sefydliadau sydd wedi'u lleoli yn y Stryd Fawr y mae 4TheRegion, y mae ei chanolfan wedi bod yng Ngorsaf Drenau Abertawe ers pedair blynedd.

Meddai Zoe Antrobus, Rheolwr Gyfarwyddwr 4theRegion, "Rwy'n dwlu ar y Stryd Fawr oherwydd amrywiaeth y busnesau a'r elfen gymunedol ohoni, sy'n wych.

"Mae pethau'n wir wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar, diolch i ymdrechion Cyngor Abertawe, Coastal Housing a'r holl fusnesau lleol."

Dan & Tim (Elysium)

Meddai Daniel Staveley, sylfaenydd a chyfarwyddwr oriel a stiwdios Elysium "Mae pethau wedi newid cymaint er gwell yn y blynyddoedd diweddar ac nid yw'r Stryd Fawr bellach yn borth i'r orsaf drenau ac oddi yno. Mae'n dechrau adeiladu ei chymuned ei hun."

Christina (Arcadia)

Mae Christina Reynolds, perchennog Arcadia Gemz, Beads and Jewellery ar Y Stryd Fawr, yn annog mwy o bobl i ymweld â'r Stryd Fawr i weld y newid drostynt eu hunain.

Meddai Christina, "Mae llawer o arian yn cael ei wario ar Y Stryd Fawr ac oherwydd hynny, rydym yn gweld nad yw'r rhan fwyaf o'r problemau a fodolai yma 15 i 20 mlynedd yn ôl yn broblem mwyach.

"Mae'r cymysgedd o fasnachwyr ar Y Stryd Fawr yn wych. Mae gennych bopeth yma o wahanol fathau o gaffis i lawer o siopau annibynnol. "

Matthew Davies (Tangled Parrot)

Meddai Matthew Davies, perchennog siop recordiau a chaffi'r Tangled Parrott, "Dechreuais fod â diddordeb mewn agor busnes ar Y Stryd Fawr yn ôl yn 2018 oherwydd roeddwn yn gallu gweld sut roedd pethau'n newid, ond fe ddwedwn i ei bod wedi newid er gwell yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae byd celfyddydol a cherddoriaeth bywiog ar Y Stryd Fawr a llawer o ryngweithio â'r gymuned a busnesau sy'n cydweithio i gynnal digwyddiadau fel yr ŵyl High Street Rising."

Safyan Shahid (Bowlz)

Meddai Safyan Shahid, cydberchennog siop melysfwydydd Bowlz, "Rwy'n meddwl bod Y Stryd Fawr wedi gwella llawer. Mae cael myfyrwyr yn yr ardal yn gadarnhaol iawn gan ei fod yn arwain at gwsmeriaid yn pasio'r busnesau sydd yma.

Mae Nerdwear sy'n gwerthu llyfrau comics a chardiau ymysg y busnesau newydd ar Y Stryd Fawr.

Connor Hale (NerdWare)

Meddai'r perchennog Connor Hale, "Rydym wedi bod yn masnachu ers tua dwy flynedd ond mae siop wedi bod gyda ni ar Y Stryd Fawr nawr am dri mis. Mae wedi bod yn eitha' da hyd yn hyn, yn dilyn y siopau a sefydlwyd gennym ym Marchnad Abertawe ac arcêd Y Stryd Fawr."

Yn ogystal â phrosiect Theatr y Palace, mae Cyngor Abertawe hefyd yn arwain ar gynlluniau i gysylltu'r Stryd Fawr yn well â'r Strand fel rhan o brosiect Cwm Tawe Isaf sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy ei rhaglen Ffyniant Bro.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys bwriad Coastal Housing i adnewyddu hen Dafarn y King's Arms ar Y Stryd Fawr i'w ddefnyddio eto at ddiben masnachol.

Close Dewis iaith