Toglo gwelededd dewislen symudol

Dechrau'n Deg Abertawe - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am y rhaglen Dechrau'n Deg yn Abertawe.

Beth yw Dechrau'n Deg?

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd a dargedir er mwyn cefnogi teuluoedd i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 oed.

Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cefnogi dwys i blant 0-3 oed a'u teuluoedd. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau ieithyddol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol a nodi anghenion difrifol yn gynnar.

Rydym yn gwneud hyn drwy gyflwyno cefnogaeth ac arweiniad iechyd, grwpiau a chefnogaeth magu plant, grwpiau a chefnogaeth iaith gynnar a gofal plant rhan-amser a ariennir.

Ydw i'n gymwys?

I gymryd rhan yn y rhaglen Dechrau'n Deg, mae'n rhaid i chi fyw mewn ardal Dechrau'n Deg. Cysylltwch a ni (01792 517222) i wirio a yw eich cod post a'ch stryd wedi'u rhestru.

Beth rwy'n gymwys i'w dderbyn?

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, byddwch chi a'ch teulu yn gymwys i dderbyn:

  • Gwasanaeth ymwelwyr iechyd estynedig
  • Mynediad i raglenni magu plant
  • Mynediad i gefnogaeth datblygu iaith gynnar
  • Gofal plant rhan-amser (2.5 awr y dydd) a ariennir i blant rhwng 2 a 3 oed.

Cyflwynir y gwasanaeth gofal plant mewn canolfan Dechrau'n Deg leol, fel arfer o fewn pellter cerdded i'ch cartref. Rydym yn gweithio fel rhan o dim cymwys sy'n cynnig llawer o hwyl a chyfleoedd dysgu mewn amgylchedd gwych, lle bydd y profiadau y bydd eich plentyn yn eu cael yn cefnogi ei ddatblygiad cyfannol. Mae'r holl leoliadau hyn yn bodloni'r safonau uchel a bennwyd gan y rhaglen Dechrau'n Deg ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Pryd gallaf gael mynediad i wasanaethau Dechrau'n Deg?

  1. Ymweliadau lechyd - os ydych yn gymwys i dderbyn darpariaeth Dechrau'n Deg, caiff eich manylion eu trosglwyddo i'r ymwelydd iechyd perthnasol a fydd wedyn yn trefnu apwyntiad gyda chi.
  2. Magu Plant - mae nifer o ffyrdd y gall Dechrau'n Deg Abertawe helpu i'ch cefnogi yn y rôl bwysig hon fel rhiant. Gallwch gael eich cyfeirio at y rhaglen gan eich ymwelydd iechyd neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall; siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu'r rheolwr a/neu'r gweithiwr allweddol yn lleoliad Dechrau'n Deg eich plentyn, byddant yn gallu eich cyfeirio neu eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr arweiniol o'ch canolfan cymorth cynnar lleol a fydd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig. Fel arall, os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn rhaglen magu plant neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a gynigir, ffoniwch ni ar 01792 517222.
  3. Gofal Plant - bydd eich Rheolwr Gofal Plant Dechrau'n Deg lleol yn cysylltu a chi cyn pen-blwydd eich plentyn neu, os ydych wedi symud i'r ardal, ar ol i'ch manylion gael eu trosglwyddo gan eich Ymwelydd lechyd. Byddwch yn cael gwybod pan fydd lle ar gael i'ch plentyn.
Close Dewis iaith