Chwilio'r wefan
English

Y Lleuad a Gwên

Arddangosfa Glynn Vivian.

Helen Sear Still from Moments of Capture, 2016 From The Moon and a Smile
4 Maw 2017 - 23 Ebrill 2017
10.00AM. Tan 5.00pm
Mae'r digwyddiad hwn am ddim.
Glynn Vivian
Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ

Rhagarddangosfa: Nos Wener 3 Mawrth, 7-9pm

Ystafell 3

Artistiaid:
Greta Alfaro, Anna Fox, Astrid Kruse-Jensen, Neeta Madahar a Melanie Rose, Sharon Morris, Sophy Rickett, Helen Sear a Patricia Ziad

Mae Y Lleuad a Gwênyn ymateb i gyfnod yn y 1840au a'r 1850au pan roedd Abertawe yng nghanol arbrofion cynnar ffotograffiaeth ar draws y byd. Yn arbennig,  roedd cylch y teulu Dillwyn yn gynhyrchiol iawn wrth ddatblygu ffotograffiaeth, yn enwedig Mary Dillwyn a John Dillwyn Llewellyn.

Wedi'u comisiynu gan Glynn Vivian, mae naw artistiaid rhyngwladol wedi creu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa. Yn ogystal, bydd arddangosfa o ffotograffiaeth y 19eg ganrif.


Sgwrs Artist  

Dydd Gwener 17 Mawrth, 12:30 - 13:30

Ystafell 1

Ymunwch â'r curadur Kate Best i edrych ar rai ffotograffau o'r 19eg ganrif a phrosiectau cyfoes yn Y Lleuad a Gwên, sy'n canolbwyntio ar y ffyrdd y mae artistiaid a gomisiynwyd wedi ymateb i ffotograffau cylch Dillwyn Llywelyn Abertawe, a chynyddu ein gwerthfawrogiad ohonynt.


Llun: Helen Sear, Llun o Moments of Capture, 2016, O Y Lleuad a Gwên, Llun trwy garedigrwydd yr artist

Wedi'i bweru gan GOSS iCM