Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig gofal plant - Amodau a thelerau

Gall amodau a thelerau newid wrth i'r cynnig gofal plant fynd rhagddo.

Rydym yn cytuno i gyflawni'r canlynol:

  • Cael ein cofrestru a'n cymeradwyo gan Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru
  • Cwblhau Holiadur Diogelu Data yng nghyswllt Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe
  • Meddu ar dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ddilys
  • Meddu ar dystysgrif sicrhau ansawdd (lle bo hynny'n berthnasol)
  • Llunio cofnod wedi'i ddiweddaru o gymwysterau a hyfforddiant yr holl staff
  • Sicrhau bod cynllunio ar waith ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol
  • Sicrhau bod cynllunio ar waith ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol
  • Sicrhau bod gan staff y profiadau, y cymwysterau, y sgiliau a'r gallu priodol i gynnig darpariaeth o ansawdd a chroesawu hyfforddiant a mentrau newydd ym maes Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Rhoi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe am unrhyw amrywiad neu hysbysiadau a gyflwynwyd i AGGCC
  • Darparu oriau gofal plant wedi'u hariannu i rieni cymwys, heb fod yn fwy na 20 awr yr wythnos neu 30 o oriau yn ystod cyfnodau o wyliau
  • Darparu Cynlluniau Dysgu Unigol priodol ar gyfer plant y nodwyd bod ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anableddau sy'n dod i'r amlwg
  • Ystyried lles a llesiant y plant yn ein gofal
  • Ymgysylltu'n effeithiol a sefydliadau partner i godi a chynnal safonau
  • Rhoi 2 fis o rybudd ffurfiol i Ddinas a Sir Abertawe os bydd y lleoliad yn bwriadu tynnu'n ol o beilot y cynnig gofal plant neu'n atal cofrestriad gydag AGC
  • Hysbysu tim cynnig Dinas a Sir Abertawe os bydd unrhyw blentyn yn absennol heb awdurdod am 10 niwrnod olynol neu fwy
  • Rhoi gwybod i Ddinas a Sir Abertawe ar unwaith os bydd amgylchiadau'r rhiant yn newid fel nad ydynt yn gymwys i dderbyn y cynnig
  • Cyflwyno cofrestrau misol i Ddinas a Sir Abertawe, yn adrodd am yr union oriau a ddefnyddiwyd, y diwrnodau a fynychwyd a'r oriau oedd heb eu defnyddio.

Rwy'n deall y canlynol:

  • Pan fyddaf i'n cadarnhau cytundeb gyda rhiant rydym yn cychwyn ar gontract cyfreithiol uniongyrchol, ac ni fydd dim rhwymedigaethau nac atebolrwydd ar y cyngor mewn perthynas a'r contract hwnnw.
  • Bydd rhiant sy'n mynd heibio i'w cyfnod eithrio o 8 wythnos ac yn parhau i ddefnyddio'r elfen gofal plant yn gyfrifol am dalu'r ffioedd ychwanegol hyn.
  • Bydd rhieni sy'n cytuno i dderbyn gwasanaethau ychwanegol megis prydau bwyd, byrbrydau, cludiant, oriau ychwanegol, gwibdeithiau ac ati, yn cael eu hanfonebu. Ni fydd Dinas a Sir Abertawe yn gyfrifol am y taliadau hyn os bydd rhiant yn dod a'u contract i ben.
  • Ni fyddaf yn codi unrhyw ffioedd ychwanegol ar rieni am y plant 3 a 4 oed sy'n mynychu o dan delerau'r cynnig.
  • Byddaf yn sicrhau, i'r graddau mae hynny'n bosibl, bod gofal plant yn cael ei ddarparu'n hyblyg er mwyn helpu i ymateb i anghenion rhieni sy'n gweithio.
  • Byddaf yn darparu gwasanaeth ac adnoddau dwyieithog neu Gymraeg lle bo modd
  • Bydd Dinas a Sir Abertawe yn ymchwilio i unrhyw amheuon ynghylch ymddygiad twyllodrus.
  • Bydd y cytundeb hwn yn cael ei derfynu. Gellir hysbysu Llywodraeth Cymru, a gall y cyngor atal neu hawlio'n ol y cyfan neu ran o'r cyllid a dalwyd neu sy'n daladwy i'r darparwr o dan yr amgylchiadau canlynol:
    • Os torrir unrhyw delerau sy'n rhan o'r cytundeb hwn. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o achosion posibl o dorri'r telerau, ond nid ydynt yn hollgynhwysol:
    • Methiant ar ran y darparwr i ddilyn y canllawiau a bod Cyngor Abertawe yn barnu ei fod yn codi ffioedd ychwanegol gormodol neu afresymol.
    • Os cwblhawyd ffurflen gofrestru'r darparwr a'r dogfennau ategol yn anonest neu a gwybodaeth angywir neu gamarweiniol.
    • Os na fydd y darparwr yn dychwelyd cofrestrau misol, gan gynnwys anfonebau ac adroddiadau monitro a gwerthuso tymhorol i Gyngor Abertawe.
    • Unrhyw ganfyddiad o ymddygiad twyllodrus gan Gyngor Abertawe.
    • Atal neu derfynu cofrestriad AGC. Os bydd y darparwr yn wynebu methdaliad neu ansolfedd, neu a gorchymyn derbyn wedi'i lunio yn ei erbyn, neu'n dod i drefniant gyda'i gredydwyr neu (os yw'n gorfforaeth) yn cychwyn cael ei ddirwyn i ben, heb fod hynny'n digwydd o wirfodd at ddiben ailgreu neu gyfuno, neu bod y Llys yn penodi derbynnydd, gweinyddwr, neu dderbynnydd gweinyddol ar ei gyfer. Ar ben hynny, mae'r cyngor yn cadw'r hawl i atal neu adennill y cyfan neu ran o'r cyllid lle gwnaed gordaliad yn sgil newid yn statws cymhwystra'r rhaint/rhieni.

 

Close Dewis iaith