Chwilio'r wefan
English

Gwobr Wakelin 2018: Richard Billingham

Arddangosfa Glynn Vivian

Wakelin Award 2018: Richard Billingham gower 6.5.10 neg date526.corrected psd.jpg
29 Medi 2018 - 18 Tach 2018
10.00AM. Tan 5.00pm
Mae'r digwyddiad hwn am ddim.
Glynn Vivian
Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ

Ystafell 8

Rhoddir Gwobr Wakelin bob blwyddyn i artist o Gymru y prynir ei waith ar gyfer ein casgliad parhaol. Detholwr eleni yw'r cerflunydd Laura Ford, sydd wedi dewis gwaith Richard Billingham.

Mae Richard Billingham yn byw yn Abertawe. Ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse ym 1997 ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Turner yn 2001. Cedwir ei waith mewn sawl casgliad cyhoeddus rhyngwladol megis Amgueddfa Celf Gyfoes San Francisco, yr Amgueddfa Fetropolitan, Efrog Newydd, y Tate a'r V&A, Llundain Mae ganddo gadair athro ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw ac ym Mhrifysgol Middlesex.

Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian, ynghyd â rhoddion.


Richard Billingham, (Untitled) Welshmoor, 2010, Ffotograff ddu a gwyn

Wedi'i bweru gan GOSS iCM