Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig gofal plant - sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y ffurflenni monitro gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau a ddefnyddir dan y cynnig gofal plant.

Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad i ddata personol a data categori arbennig rhieni, gofalwyr a phlant sy'n derbyn gwasanaethau gan awdurdodau lleol. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd fynediad i ddata personol a sensitif darparwyr gofal plant sy'n cyflwyno gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan y cynnig gofal plant.

Mae casglu a phrosesu'r data hwn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus (hy arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd a rol a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru). Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl gweithredu a darparu gwybodaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud a datblygu'r polisi mewn perthynas a'r cynnig gofal plant sy'n cael ei ddarparu i wella lles economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn unol ag adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Beth yw data personol a data categori arbennig?

Diffinnir data personol fel gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn byw.

Diffinnir data categori arbennig fel data personol sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl sy'n ymwneud a gwrthrych y data fel grwp ethnig neu gyflwr iechyd.

Chi, fel rhiant neu ofalwr y cyfryw blentyn, neu ddarparwr gofal plant sy'n cyflwyno gwasanaethau i blentyn sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant, sydd a'r hawl i gael eich hysbysu ynghylch pa wybodaeth y mae gan Lywodraeth Cymru fynediad iddi, a sut mae'n ei phrosesu ac yn ei defnyddio.

I ba ddata y mae gan Lywodraeth Cymru fynediad?

  • Rhieni plant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant - Gwirio cymhwyster.
  • Rhieni / gofalwyr plant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant a'r plant eu hunain.
  • Darparwyr gofal plant sy'n cyflwyno gwasanaethau o dan y cynnig gofal plant.

Rhieni plant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant - Gwirio cymhwyster

Mae awdurdodau lleol yn rhoi eich manylion chi, fel rhiant neu ofalwr y cyfryw blentyn neu blant, a manylion y plant sy'n derbyn gwasanaethau ganddynt o dan y cynnig gofal plant i Lywodraeth Cymru.

Mae'r manylion yn cynnwys:

  • Data am eich plentyn ac amdanoch chi fel rhiant/rhieni/gofalwr/gofalwyr:
    • Rhyw
    • Ethnigrwydd
    • P'un a oes gan eich plentyn angen addysgol arbennig (AAA)
    • Gwybodaeth am eich cyflog
    • Eich oriau gwaith mewn wythnos ar gyfartaledd
    • P'un a wnaethoch chi fanteisio ar wasanaethau Dechrau'n Deg - ni chesglir gwybodaeth am yr union wasanaethau
  • Manylion sylfaenol y gwasanaethau a ddarparwyd i chi a'ch plentyn cyn manteisio ar y cynnig gofal plant:
    • Y gofal plant y nodwyd eich bod yn gallu ei fforddio cyn manteisio ar y cynnig gofal plant
    • Faint o arian roeddech yn ei wario ar ofal plant bob mis ar gyfartaledd cyn manteisio ar y cynnig gofal plant
    • Am faint o oriau o ofal plant roeddech yn talu bob wythnos ar gyfartaledd cyn manteisio ar y cynnig
    • Faint o oriau o ofal plant roeddech yn eu defnyddio heb orfod talu amdanynt bob wythnos ar gyfartaledd cyn manteisio ar y cynnig
  • Manylion sylfaenol y gwasanaethau a ddarperir i chi a'ch plentyn yn sgil y cynnig gofal plant:
    • Am faint o oriau rydych wedi gwneud cais am ofal i'ch plentyn o dan y cynnig
    • Am faint o oriau mae eich plentyn yn cael gofal o dan y cynnig
    • Darpariaeth iaith y gofal y mae eich plentyn yn ei gael
    • Eich dewis iaith o ran darpariaeth eich plentyn
    • P'un a yw eich plentyn yn manteisio ar Ddarpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen
    • Rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru y darparw(y)r gofal plant lle rydych yn manteisio ar y cynnig.

Rhieni / gofalwyr plant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant a'r plant eu hunain

Mae awrdurdodau lleol yn rhoi eich manylion chi, fel rhiant neu ofalwr y cyfryw blentyn neu blant, a manylion y plant sy'n derbyn gwasanaethau ganddynt o dan y cynnig gofal plant i Lywodraeth Cymru. Mae'r manylion yn cynnwys:

  • Eich manylion cyswllt, gan gynnwys: rhif ffon, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post, a rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Darpariaeth iaith eich lleoliad yn unol a'r wybodaeth a roddwyd i'r awdurdodau lleol ac i Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Faint o oriau y mae pob plentyn sy'n manteisio ar y cynnig yn eich lleoliad wedi eu harchebu gyda chi a faint o oriau y maent wedi eu defnyddio
  • Unrhyw gostau ychwanegol i rieni sydd wedi manteisio ar y cynnig yn eich lleoliad, gan gynnwys: costau bwyd, costau teithio, ac unrhyw oriau ychwanegol pan fyddant yn defnyddio eich lleoliad yn ychwanegol at oriau'r cynnig.

Fodd bynnag, ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cynnwys eich enw, oni bai mai eich enw yw enw eich busnes, sydd ar gael i'r cyhoedd.

Darparwyr gofal plant sy'n cyflwyno gwasanaethau o dan y cynnig gofal plant

Sut bydd llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hwn?

Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio:

  • i fesur pa mor dda mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn darparu eu gwasanaethau i chi a'ch plentyn;
  • i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaethau hyn;
  • i ddyrannu arian i Awdurdodau Lleol ac eraill; neu
  • i gefnogi ymchwil ehangach i ddarpariaeth gwasanaethau i chi a'ch plentyn, neu eraill;
  • i gysylltu data o'r ffurflen hon a ffynonellau data eraill at ddiben gwerthuso effaith y prosiect ar yr unigolion sy'n cymryd rhan.

Ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ganddynt:

  • i gymryd unrhyw gamau mewn perthynas a chi neu'ch plentyn, neu'ch lleoliad gofal plant;
  • i'ch enwi chi neu'ch plentyn mewn unrhyw adroddiadau.

Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw'n ddiogel ganddi a bydd ond yn cael ei rannu ag eraill dan fesurau rheoli llym. Ni fydd byth yn cael ei rannu mewn ffordd a fydd yn golygu y gellir eich adnabod chi neu'ch plentyn.

Fel rhan o'i rol fel rheolydd data ar gyfer y data a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru, gall Llywodraeth Cymru ofyn ichi am eich manylion cyswllt a'u rhannu, ynghyd a'r data a amlinellir yn yr hysbysiad hwn, gydag asiantaethau ac ymchwilwyr nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth, at ddibenion ystadegol neu ymchwil yn unig.

Cyn gynted a phosibl, yn yr achosion hynny lle gellir adnabod unigolion ar sail eitemau data, a gasglwyd at ddibenion ymchwil, bydd y data hwnnw yn cael ei ddileu a bydd unrhyw ddatgeliadau o'r fath yn cael eu cymeradwyo a'u rheoli gan gytundeb Llywodraeth Cymru ar fynediad priodol i ddata a fydd yn:

  • sicrhay bod data yn cael ei drosglwyddo, ei storio a'i ddistrywio yn y pen draw;
  • cyfyngu ar y defnydd o'r gofyniad penodol a nodwyd, gan ganiatau i'r data gael ei gadw am oes y prosiect ymchwil yn unig.

Gellir sicrhau bod canlyniadau dadansoddiadau a gynhaliwyd drwy ddefnyddio'r data ond gan ddefnyddio cyfansymiau cyfanredol ar gael mewn cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil a ghyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru a hefyd drwy ddata ar wefan data StatsCymru, sydd ar gael yma gov.wales/statistics and research (Yn agor ffenestr newydd).

Eich hawliau

Mae gan unigolion hawliau penodol mewn perthynas a'r data personol sy'n cael ei gadw amdanynt. Dyma enghreifftiau o rai o'r hawliau hyn:

  • yr hawl i ofyn am a derbyn copiau o'r data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi fach am hyn), er y gellir atal rhywfaint o wybodaeth yn gyfreithlon ar adegau
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i atal data personol rhag cael ei brosesu pe bai gwneud hynny'n achosi niwed neu drallod
  • yr hawl i ofyn am i wybodaeth anghywir gael ei chywiro
  • mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi a goruchwylio Ddeddf Diogelu Data (GDPR) 2018, i asesu a yw eich data personol yn debygol o gael ei brosesu mewn ffordd sy'n cydymffurfio a darpariaethau'r Ddeddf ai peidio.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach ynglyn a sut y bydd ata amdanoch chi (neu'ch plentyn) yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, os ydych am atal cydsyniad i rwystro'ch data personol rhag cael ei brosesu, neu os oes gennych unrhyw bryderon am gywirdeb data personol neu am arfer unrhyw un o'ch hawliau dan Ddeddf Diogelu Data (GDPR) 2018, ysgrifennwch atom ni gan ddefnyddio'r manylion isod:

Tim y Cynnig Gofal Plant, CP2 Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

E-bost: Talkchildcare@gov.wales

Gellir cysylltu a Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

Gellir cysylltu a'r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth ar: 01625 545297 neu E-bost: wales@ico.org.uk


Eich gwybodaeth chi a'r ddeddf rhyddid gwybodaeth

Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y caiff gwybodaeth a gedwir amdanoch chi ei datgelu, os ceir cais rhyddid gwybodaeth. Os gofynnir am unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi mewn cais o'r fath, byddai Llywodraeth Cymru fel arfer yn ymgynghori a chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth ir' cyhoedd.

 

Close Dewis iaith