Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig

Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.

Rhaid i'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig lenwi'r ffurflen  Consent of individual to being specified as premises supervisor (PDF) [43KB]. Bydd rhaid lanlwytho'r caniatâd hwn i'r ffurflen ar-lein felly bydd rhaid i chi sicrhau ei fod gennych cyn i chi gwblhau'r cais i amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig.

Mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu'r drwydded mangre bresennol neu reswm pam na ellir ei darparu.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith