Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y Gwasanaethau Cymdeithasol - yr asesiad ariannol

6.Ar ôl i ni asesu eich bod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth gofal cartref, byddwn yn cynnal asesiad ariannol i benderfynu faint y byddwch yn ei dalu (ac eithrio'r rheini sydd wedi'u heithrio).

Mae'r asesiad ariannol yn ffordd o gyfrifo faint o arian sydd ar gael i dalu tuag at gost eich gofal.

Er mwyn gwneud asesiad ariannol, byddwn yn gofyn i chi am fanylion eich incwm (e.e. budd-daliadau, pensiwn y wladwriaeth, pensiwn gwaith) eich cyfalaf (e.e. cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, cyfranddaliadau, Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol) a'ch treuliau. Bydd gennych 15 niwrnod gwaith i roi'r wybodaeth hon ar ôl y gwneir cais amdani.

Byddwn yn cadw'r holl wybodaeth hon yn gyfrinachol.

Eich incwm

Byddwn yn edrych ar yr arian rydych yn ei gael o'ch pensiynau, o'r rhan fwyaf o fudd-daliadau, neu ffynonellau eraill fel taliadau gan bobl eraill. Byddwn ond yn cyfrif yr arian ar ôl treth. Nid oes diddordeb gennym yn yr arian rydych yn ei ennill fel cyflog.

Eich cynilion

Oherwydd y gallwch ennill llog neu fuddrannau ar gynilion, rydym yn eu cynnwys yn ein hasesiad ariannol. Rydym yn edrych ar yr arian sydd gennych yn y banc neu gyfrifon cynilo, mewn stociau a chyfrannau neu fuddsoddiadau eraill. Nid ydym yn cyfrifo gwerth eich cartref lle rydych yn byw.

Os oes gennych gynilion o dros £24,000, yna byddwch yn gorfod talu cost lawn gofal cartref yn awtomatig.

Fodd bynnag, efallai bydd enghreifftiau lle nad yw cynilion dros £24,000 yn cael eu dosbarthu fel asedion cyfalaf. Gallai rhai mathau o asedion gael eu trin fel incwm ac nid fel cyfalaf. Gallai hyn effeithio ar faint byddai angen i chi dalu tuag at eich gofal.

Felly, hyd yn oed os yw'ch cynilion dros £24,000, efallai hoffech roi manylion am eich asedion i ni fel y gallwn eu hasesu'n briodol. Yna, gallwn ddweud wrthych a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth i'ch sefyllfa ariannol.

Eich treuliau

Rydym yn ystyried rhai o'ch treuliau hanfodol, fel taliadau rhent neu forgais a thaliadau Treth y Cyngor.

Gallwn ddarparu rhagor o fanylion i chi ar yr hyn rydym yn ei gyfrif ac nad ydym yn ei gyfrif fel cynilion, incwm a threuliau.

Cyfrifo'r hyn y byddwch yn ei dalu

Unwaith y byddwn wedi casglu'r holl wybodaeth ariannol, rydym:

  • Yn cyfrifo cyfanswm eich incwm wythnosol a aseswyd, gan gynnwys unrhyw incwm o gynilion.
  • Tynnu eich treuliau.

Nid ydym yn disgwyl i chi wario'r holl arian sy'n weddill ar ofal cartref. Mae isafswm incwm y mae'r gyfraith yn dweud bod gennych hawl i'w ddefnyddio ar gyfer pethau eraill. Bydd y swm hwn yn amrywio yn ôl eich amgylchiadau personol.

Os yw eich incwm a aseswyd, ar ôl treuliau, yn llai na hyn (pa ffigwr bynnag sy'n berthnasol i chi) yna ni fydd disgwyl i chi dalu unrhyw beth tuag at gost gofal cartref.

Rydym yn cyfrifo cyfanswm cost eich gofal cartref, ar gyfradd o £23.16 yr awr, a £5.79 ar gyfer chwarter awr lle bo'n berthnasol.

Lle darperir llai nag awr o ofal mewn unrhyw wythnos, codir tâl a fydd yn gyfwerth ag awr o ofal neu'r tâl uchaf a asesir, p'un bynnag yw'r ffigur isaf.

Rydym yn cymharu cyfanswm cost wythnosol eich gofal gyda'ch incwm a aseswyd, uwchlaw'r lwfans wythnosol. Byddwch yn talu pa un bynnag sydd leiaf. Ni ofynnir i neb dalu na £100 yr wythnos.

Rydym yn rhoi cyfriflen i chi sy'n nodi cyfrifiad y taliad mae'n rhaid i chi ei dalu.

Sylwer: Mae'r holl ffigurau hyn yn gywir o'r 12 Ebrill 2021.  Byddant yn cael eu hadolygu bob blwyddyn, fel arfer ym mis Ebrill, a gallant gael eu newid.

Close Dewis iaith