Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc

Mae gofalwr ifanc yn blentyn neu'n berson ifanc y mae gofalu am rywun ag anabledd neu salwch tymor hir yn effeithio ar ei fywyd. Yn aml, bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu emosiynol a ddisgwylid gan oedolyn fel arfer.

Mae gofalwr ifanc yn rhywun sy'n helpu'n rheolaidd i ofalu am rywun y mae ganddo:

  • salwch tymor hir
  •  anabledd dysgu
  •  anabledd corfforol
  •  anawsterau iechyd meddwl
  •  problemau o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Gallai'r sawl mae'n gofalu amdano fod yn unrhyw un o'r canlynol:

  • mam neu dad
  •  brawd neu chwaer
  •  mam-gu, tad-cu neu berthynas arall.

Gallai'r gefnogaeth mae'r gofalwr ifanc yn ei darparu gynnwys:

  • gwaith tŷ, coginio a siopa
  •  gofalu am frodyr a chwiorydd iau
  •  helpu rhywun i ymolchi a gwisgo
  •  sicrhau bod y sawl mae'n gofalu amdano'n ddiogel
  •  siarad ag asiantaethau eraill (e.e. y doctor) am y sawl mae'n gofalu amdano
  •  rhoi meddyginiaeth
  •  rhoi cefnogaeth emosiynol.

Nid yw bob amser yn hawdd bod yn ofalwr ifanc. Rhai o'r problemau y gallai eu hwynebu yw:

  • anawsterau gyda'r ysgol a gwneud gwaith cartref
  •  dim digon o amser i weld ffrindiau
  •  poeni am y sawl mae'n gofalu amdano
  •  teimlo'n wahanol i eraill
  •  pobl eraill ddim yn deall sut mae bod yn ofalwr ifanc.

Oedolion ifanc sy'n ofalwyr

Gofalwyr rhwng 16 a 25 oed yw Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr. Gallant fod yn ymdrin â'u cyfrifoldebau gofalu ynghyd â:

  • gofynion addysg bellach neu uwch
  • chwilio am waith neu'n ceisio deall y system fudd-daliadau
  • dechrau eu bywydau gwaith
  • perthynas emosiynol ddifrifol
  • meddwl am adael cartref.

 


Efallai y gall Gwasanaethau Cymdeithasol helpu gofalwyr ifanc, trwy'ch helpu i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnoch, neu drwy ddarparu cefnogaeth i'r sawl rydych yn gofalu amdano.

Os cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol, efallai y bydd gweithiwr cymdeithasol yn sgwrsio â chi am yr anawsterau sydd gennych oherwydd eich rôl gofalu a pha fath o help yr hoffech ei gael.  Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwybod ei bod yn bwysig i deuluoedd aros gyda'i gilydd a helpu ei gilydd a byddwn yn ceisio'ch helpu i wneud hyn, fel y gallwch barhau i fod yn ofalwr ifanc, os ydych chi eisiau, ond cael amser hamdden, hefyd. Weithiau, efallai na fydd gweithwyr cymdeithasol yn rhoi'r help angenrheidiol i chi'n uniongyrchol, ond bydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl neu sefydliadau eraill sy'n gallu helpu. 

Ni fydd yn rhaid i chi gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae pobl sy'n gallu gwneud hyn drosoch.  Gallai fod yn rhywun o'r Prosiect Gofalwyr Ifanc, yn rhywun o'ch ysgol neu rywun arall rydych yn ymddiried ynddo.

Gofynnwch am gefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ar eich cyfer chi fel gofalwr ifanc Un pwynt cyswllt (UPC)

Gofyn am help neu gefnogaeth i oedolyn rydych yn gofalu amdano cysylltwch â'r pwynt mynediad cyffredin ar gyfer Gofal Iechyd a Chymdeithasol.

Rydym wedi darparu dolenni i'r sefydliadau canlynol sy'n gallu helpu gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc:

Close Dewis iaith