Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o wybodaeth am yr 'Un Pwynt Cyswllt'

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn gofyn cwestiynau er mwyn i ni ddeall yr hyn sy'n digwydd i chi a'ch teulu. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a oes angen cefnogaeth a dod o hyd i'r help gorau i chi.

Rydym yn archwilio cryfderau a pheryglon mewn teuluoedd er mwyn sefydlogi ac atgyfnerthu sefyllfa plentyn a theulu.

Ein nod yw eu hysbysu, eu cefnogi a'u grymuso i wneud dewisiadau i aros yn ddiogel, yn hapus ac yn iach.

Efallai ceir cefnogaeth o fewn eu rhwydwaith naturiol o deulu neu ffrindiau, ond gallai hefyd fod cefnogaeth o leoedd yn eu cymunedau, fel elusennau.

Rydym yn gwneud hyn am ei fod yn ein helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig i blant, pobl ifanc, teuluoedd a'u rhwydweithiau, ac mae hefyd yn rhan yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) sy'n canolbwyntio ar weithio gyda phobl mewn partneriaeth, ac atal anghenion cynyddol.

Gall teuluoedd sy'n byw yn ninas a sir Abertawe gysylltu â ni'n uniongyrchol i ofyn am help neu gyngor. Weithiau bydd pobl fel athrawon neu ymwelwyr iechyd hefyd yn cysylltu â ni i weld a oes modd i ni gynnig cefnogaeth ychwanegol i deulu.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni?

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd gweithiwr cymdeithasol cymwys o'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig (a elwir yn GCChI) yn gofyn cwestiynau i'n helpu i ddeall beth sy'n digwydd yn y teulu. Rydym yn penderfynu a oes angen cefnogaeth a phwy fyddai'r person neu'r sefydliad gorau i'ch helpu.

Bydd un ymweliad â ni yn ddigon i asesu'r help sydd ei angen arnoch.

Gallwn siarad â'r plentyn, y person ifanc a'r teulu am yr hyn sy'n bwysig, ac edrych ar sut y gellir cyflawni hynny, gellir gwneud hyn trwy:

  • roi gwybodaeth a chyngor i chi;
  • trefnu cymorth neu gefnogaeth gynnar gan y cyngor;
  • dod o hyd i gefnogaeth i chi gan sefydliadau eraill; neu
  • penderfynu bod y gefnogaeth y mae ei hangen ar eich plentyn neu'ch teulu yn gofyn am weithiwr cymdeithasol.

Bydd y trafodaethau, yr asesiadau a'r gefnogaeth yn gytbwys i ddiwallu anghenion y teulu.

Os yw'n ymddangos bod angen gweithiwr cymdeithasol arnoch, trefnir ymweliad fel y gallant siarad â'ch teulu i asesu'r help sydd ei angen arnoch.

Os oes pryderon amddiffyn plant, bydd angen cynnwys y gwasanaethau plant a theuluoedd bob amser, a bydd cynllun amddiffyn gofal a chymorth ar gael.

 

Yn ogystal â'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig (GCChI), mae UPC hefyd yn gartref i'r Ganolfan Ddiogelu Integredig, y Tîm Lles Teuluol, y Ganolfan Cam-drin Domestig a'r Ganolfan Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant/Camfanteisio Troseddol.

Atgyfeiriad gan ymarferydd/ gweithiwr proffesiynol - Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

Cais gan ymarferydd am wybodaeth, cyngor a chymorth gan y Canolfannau Cymorth Cynnar neu'r Pwynt Cyswllt Unigol yng Nghyngor Abertawe.

Diogelu plant

Mae pawb yn gyfrifol am sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn diogelu yw'r enw am hyn.

Un pwynt cyswllt (UPC)

Gall teuluoedd sy'n byw yn Abertawe gysylltu â'r UPC eu hunain i ofyn am help neu gyngor.

Dangosyddion Cymorth y Continwwm Angen (DCCA)

Mae'r dudalen hon i bobl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Close Dewis iaith