Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Us Girls a GemauStryd

Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.

Us Girls (IS)

Us Girls (IS)
Bydd gwersylloedd Us Girls yn rhoi'r cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau mewn amgylchedd hwyliog, cyfeillgar ac anfarnol ar draws tair canolfan hamdden yn Abertawe; Canolfan Hamdden Pen-lan, Canolfan Hamdden Penyrheol a Chanolfan Hamdden Hengoed yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r chwaraeon a gweithgareddau sydd ar gynnig yn ein gwersylloedd yn cynnwys gymnasteg, rygbi, hunanamddiffyn, nofio, dawnsio, mynyddfyrddio a mwy; mae rhywbeth i bawb!

Mae gweithdai hefyd yn gyffredin yn y gwersylloedd a bydd cyfle yno i chi drafod eich barn a'ch pryderon ynghylch gwahanol bynciau fel cyfryngau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, iechyd emosiynol, modelau rôl a mwy. Efallai yr hoffech ddod yn wirfoddolwr Us Girls neu'n arweinydd ifanc ac os felly, byddwn yn eich cefnogi ac yn rhoi'r holl bethau angenrheidiol i chi gyflawni'r rôl hon yn hyderus.

Us Girls a GemauStryd

Am ragor o wybodaeth am GemauStryd ac Us Girls yng Nghymru, ewch i: https://www.streetgames.org/  

https://www.streetgames.org/what-we-do/about-doorstep-sport/us-girls/ 

I gael gwybod mwy am gymryd rhan mewn chwaraeon yn y ddinas hardd hon, cysylltwch â'ch Tîm Chwaraeon ac Iechyd CHI ParkLives. Rydym i gyd yma i chi!! 

Rydym yn gobeithio eich gweld chi'n fuan yn un o'n gweithgareddau, ac os nad ydych chi eisoes yn gwneud, sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook a Twitter a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd (yn agor mewn ffenestr newydd)  i fod y cyntaf i glywed ein newyddion ac i gael rhagor o wybodaeth amdanom. 

 

Os hoffech ddod i wersyll Us Girls, cwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar ein gweithgareddau newydd, cadwch lygad ar ein Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter (Yn agor ffenestr newydd) am fanylion ein gwersylloedd Us Girls sydd ar ddod a gwybodaeth am sut i gadw lle.

Close Dewis iaith