Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Llythrennedd corfforol

Mae llythrennedd corfforol yn gysyniad sy'n helpu gyda datblygiad cyfannol pob unigolyn fel y gall barhau i fod yn gorfforol actif drwy gydol ei oes.

Physical Literacy (IS)
Mae datblygiad cyfannol yn cynnwys datblygu'r person cyfan mewn amrywiaeth o wahanol feysydd gan gynnwys yn gorfforol, yn wybyddol, yn affeithiol (emosiynol) ac yn gymdeithasol. Drwy ddatblygu llythrennedd corfforol, bydd yr unigolyn yn hapusach ac yn iachach ac yn gallu mwynhau gweithgarwch corfforol cadarnhaol, difyr a diogel beth bynnag fo'i oedran neu allu.

Mae llythrennedd corfforol yn ymwneud â datblygu sgiliau corfforol unigolion (cydbwysedd, cydsymudiad neu gryfder, er enghraifft) fel y gallant gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon neu weithgareddau corfforol, boed y rheini'n rhai adlonianol neu gystadleuol. Mae sgiliau symud a gallu corfforol hefyd yn helpu i greu gwell ansawdd bywyd ac yn caniatáu i unigolion gyflawni tasgau corfforol (fel y gallu i gyflawni tasgau dyddiol, fel dringo'r grisiau, cario bagiau siopau neu gydbwyso), boed yn blentyn bach, yn berson ag anabledd neu'n berson mewn oed. Po fwyaf yr ystod o sgiliau a phrofiadau sydd gan yr unigolyn, mwyaf y cyfleoedd y bydd yn eu cael wrth dyfu'n hŷn a chyrraedd oedolaeth.

Mae profiadau cadarnhaol mewn gweithgarwch corfforol yn datblygu cymhelliant a hyder cynhenid unigolyn i allu ennill y sgiliau i fod yn gorfforol heini mewn ystod o sefyllfaoedd ac amgylcheddau newidiol. Hefyd, drwy ddatblygu dealltwriaeth o weithgarwch corfforol, bydd unigolion yn elwa o brofiadau dysgu dyfnach ac yn gallu trosglwyddo sgiliau i agweddau eraill ar eu bywydau. Drwy ddatblygu llythrennedd corfforol, bydd disgyblion yn dysgu sut i werthfawrogi gweithgarwch corfforol, yn deall beth yw ei fanteision ac yn cymryd cyfrifoldeb am gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol am oes.

Prosiectau Llythrennedd Corfforol y mae'r Tîm PIA yn ymwneud â nhw:

  • Y Blynyddoedd Cynnar - rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o leoliadau gofal plant
  • Ymgysylltu â Rhieni - rydym yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu llythrennedd corfforol
  • Sesiynau mewn ysgolion ac yn y gymuned - rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu llythrennedd corfforol

 

Y Blynyddoedd Cynnar

Mae ein prosiectau'r Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gyda meithrinfeydd a lleoliadau blynyddoedd cynnar i gynyddu cyfleoedd i fod yn heini o oedran ifanc iawn.  Mae hwn yn faes blaenoriaeth i'r tîm, gan fod ymchwil yn dangos, pan fydd plant ifanc iawn yn datblygu llythrennedd corfforol da, maent yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol drwy gydol eu bywydau. Un enghraifft o'n prosiectau yn y maes hwn yw prosiect Skip Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Rydym hefyd yn gweithio gyda rhieni a phlant ifanc i'w cynnwys mewn gweithgarwch corfforol drwy lyfrau stori.  Mae ein tîm yn annog rhieni i gymryd rhan.  Mae hyn yn golygu bod rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr yn rhan o'r broses ac yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol ar gyfer iechyd ac addysg plant ifanc iawn.

 

Chwaraeon Stryd

Darpariaeth Chwaraeon Stryd symudol ar garreg eich drws.  Mae'r prosiect hwn yn wasanaeth adweithiol ar gyfer anghenion cymunedau lleol.  Gellir gweld ein sesiynau chwaraeon adlonianol, difyr a rhwydd ar draws y ddinas lle gall pobl ifanc ddod at ei gilydd i fod yn heini gyda'i ffrindiau.  Os ydych yn mwynhau sglefrfyrddio, amlgampau, pêl-fasged, tenis neu bêl-osgoi, mae ein tîm yn barod i ddod i gymuned sy'n agos atoch chi!

Close Dewis iaith