Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth a chyngor dementia

Mae nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn darparu cefnogaeth i bobl â dementia a'u gofalwyr y gellir eu defnyddio heb gael asesiad.

Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia a Dementia Hwb

Mae Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia'n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i bobl sy'n byw gyda dementia.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

Atgofion Chwaraeon

Elusen a menter gymdeithasol yw Atgofion Chwaraeon sy'n helpu pobl hŷn i gofio, ail-fyw ac ail-gysylltu drwy bŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Cefnogaeth Dementia BIPBA (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

Mae'r tîm cymorth dementia ym maes gofal sylfaenol yn Abertawe yn darparu pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n pryderu am newidiadau yn eu hiechyd gwybyddol, hy eu sgiliau meddwl a'u cof.

Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru

Elusen gofrestredig sy'n arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y rhai sy'n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.

Cludiant Cymunedol DANSA

Enw
Cludiant Cymunedol DANSA
Rhif ffôn
01639 751067

Cymdeithas Alzheimer

Cymorth i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe'n cefnogi, yn datblygu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau ar draws Abertawe.

Côr Musical Memories

Côr â Phwrpas yw Côr Musical Memories! Dechreuwyd y côr yn 2014 allan o ddymuniad i roi'r cyfle i bobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr ddod at ei gilydd i brofi buddion canu a chyfeillgarwch pobl eraill sy'n byw trwy brofiadau tebyg.

Dementia Carers Count

Dementia Carers Count are working for a world where all family and friends taking care of someone with dementia feel confident, supported, and heard. They provide free online and face-to-face courses for unpaid carers.

Dementia UK a Nyrsys Admiral

Nyrsys dementia arbenigol yw Nyrsys Admiral. Maent yn cael eu cefnogi a'u datblygu'n barhaus gan Dementia UK, maent yn darparu cefnogaeth sy'n newid byd i deuluoedd yr effeithir arnynt gan bob math o ddementia - gan gynnwys clefyd Alzheimer.

Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin

Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.

Llais

Eich llais mewn iechyd a gofal cymdiethasol.

Llinell Gymorth Dementia Cymru

Cefnogaeth, gwybodaeth ac arwyddo asiantaeth i unrhyw un sy'n cael diagnosis o ddementia neu sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sy'n byw gyda dementia.
Close Dewis iaith