Chwilio'r wefan
English

Eich Paentiadau

Mae cannoedd o baentiadau olew o gasgliad yr oriel, gan gynnwys gwaith gan Monet, Pissarro ac Evan Walters ymysg y rhai ar wefan y BBC sy'n ymroddedig i'r celfyddydau.

BBC Your Paintings

Mae gan Oriel Gelf Glynn Vivian dros 600 o ddarnau o waith celf i'w gweld ar-lein gan gynnwys paentiadau o'r 20fed ganrif gan Barbara Hepworth, Ben Nicholson a Paul Nash, ynghyd ag artistiaid o Gymru megis Ceri Richards, Gwen John ac Augustus John.

Tynnwyd lluniau o baneli enwog Neuadd Brangwyn hefyd i'w cynnwys yn y casgliad ar-lein.

Mae rhai o'r gweithiau yn Abertawe yn dyddio o'r 18fed ganrif.

Mae dros 210,000 o baentiadau o dros 2,800 o gasgliadau bellach wedi'u hychwanegu.

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Catalog Cyhoeddus a'r BBC ar gyfraniad y ddinas at y wefan. Nod y Sefydliad Catalog Cyhoeddus, sef elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 2003, yw sicrhau bod yr holl baentiadau olew mewn casgliadau cyhoeddus ledled y DU ar gael i'w gweld gan y cyhoedd. 

BBC Eich PaentiadauYn agor mewn ffenest newydd

Wedi'i bweru gan GOSS iCM