Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu gwastraff bwyd

Defnyddiwch eich bin gwyrdd ar gyfer eich casgliad gwastraff bwyd wythnosol.

Food recycling bin.
Er mwyn sicrhau y cesglir eich eitemau:

  • defnyddiwch y biniau rydym yn eu darparu am ddim
  • rhowch eich biniau allan i'w casglu rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
  • cadwch eich blwch yn lân trwy ddefnyddio'r leinwyr rydym yn eu darparu am ddim
  • paentiwch neu ysgrifennwch rif eich tŷ ar eich bin
  • defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch gwastraff

O ble y gallaf gael bin bwyd?

Mae biniau bwyd ar gael i'w casglu o unrhyw un lyfrgell neu swyddfa dai'r cyngor. Gweler ein rhestr lawn i ddod o hyd i'ch lleoliad agosaf.

Byddwn yn darparu bin bach i'w gadw yn eich cegin y gallwch ei leinio â bagiau gwastraff bwyd, a bin mwy â chlawr cloadwy i'w gadw tu fas y bydd criwiau casglu yn ei wacáu.

Os na allwch gasglu bin, gallwch ofyn i'r cyngor ddanfon un atoch.

Beth i'w roi yn y biniau

Diolch yn fawr

Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bin gwastraff bwyd:

  • plicion ffrwythau a llysiau 
  • bwyd dros ben wedi'i goginio (e.e. reis, pasta, llysiau)
  • bagiau te
  • plisg wyau 
  • bwyd wedi pydru
  • cig a physgod (wedi'u neu heb eu coginio)
  • cynnyrch llefrith
  • esgyrn mân hyd at ac yn cynnwys carcas cyw iâr

Dim diolch

Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bin gwastraff bwyd:

  • bwyd wedi'i becynnu (gwahanwch fwyd oddi wrth becynnu a'i ailgylchu ar wahân)
  • cerdyn, gardbord neu papur cegin

    Close Dewis iaith