Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Meithrin perthnasoedd â gweithwyr proffesiynol

Mae partneriaethau cryf rhwng rieni a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol i hybu datblygiad plentyn.

Dylai athrawon a rhieni wneud pob ymdrech i feithrin perthynas dda a'i gilydd.

Dyma'r elfennau allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd iach:

  • Angen i'r holl gamau eraill yn y bartneriaeth weithio gyda'i gilydd.
  • Dod i adnabod ei gilydd.
  • Dod i wybod dyheadau rhieni/athrawon.
  • Cytuno i weithio gyda'i gilydd.
  • Sefydlu ymddiriedaeth go iawn i alluogi didwylledd a her.
  • Athrawon yn meithrin hunan-barch a hyder rhieni. Rhieni'n dangos hyder yn athro/ysgol eu plentyn.

Dylai athrawon egluro'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer eu plentyn a dylai fod ganddynt ganlyniadau bwriadedig CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol).

Dylai athrawon hefyd:

  • Ragfynegi unrhyw rwystrau posib a pharatoi ar eu cyfer.
  • Pennu dyddiad ar gyfer adolygu cynnydd eich plentyn.
  • Nodi'r cytundeb mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer y plentyn.
  • Cefnogi'r rhieni yn eu rol (e.e. anogaeth, clod a rhoi adborth). Dylai rhieni ac athrawon gytuno ar ddull i adolygu cynnydd:
    • Dylai rhieni ac athrawon unigol gwrdd i werthuso'r cynnydd o ran y camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir.
    • Dylai athrawon gydnabod cyfraniad y rhiant.
    • Dylid dod i gytundeb o ran pa anghenion y mae'n rhaid eu diwallu o hyd.
    • Adolygu'r camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir fel y bo'n briodol.
    • Pennu dyddiad newydd ar gyfer adolygu cynnydd.

 

Close Dewis iaith