Toglo gwelededd dewislen symudol

Neuadd y Ddinas Sioraidd yn yr ardal forol

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Abertawe'n newid ac nid oedd hen neuadd y dref bellach yn weddus at ei diben.

Georgian Guildhall
Ym 1825, penderfynodd y gorfforaeth adeiladu neuadd y ddinas newydd, a dewiswyd safle ar gyfer adeilad dinesig newydd yn y Twyni. Gynt yn glwt o ddolydd tywodog rhwng y dref a'r môr, roedd wedi'i droi'n ddatblygiad ffasiynol gyda therasau ac ystafelloedd cynnull. Roedd yn lle gweddus i'r adeilad urddasol newydd. Dechreuodd gwaith yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a'i orffen ym 1829. Roedd yr adeilad yn edrych yn gain gyda ffasâd cymesur. Roedd dwy res fawr o risiau'n arwain at y brif fynedfa ar y llawr cyntaf. Y tu mewn, roedd dwy ystafell lys, yn ogystal ag ystafelloedd llai, amrywiol.

Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan nad oedd yr adeilad newydd yn ddigon. Oherwydd Deddf Corfforaethau Dinesig 1835, cynyddodd maint y fwrdeistref o fwy na dwbl, gan ddod â'r rhannau diwydiannol ar hyd Cwm Tawe cyn belled â Threforys. Ym 1848, penderfynwyd mwyhau'r adeilad a rhoi ffasâd newydd iddo. Pan gafodd ei orffen, roedd gwedd weddol wahanol ar yr adeilad, gyda cholofnau clasurol a llawer mwy o lety. Yn ddiweddarach yn y ganrif, ychwanegwyd cerflun John Henry Vivian ato, a dau ganon Rwsiaidd o Ryfel y Crimea.

Fel ei rhagflaenydd, roedd neuadd y ddinas wrth y dociau'n rhy fach am ofynion tref fythol-ymledol Abertawe, a phenderfynwyd adeiladu canolfan ddinesig newydd. Mae'r hen adeilad wedi'i ddefnyddio at ddibenion amrywiol dros y pymtheng mlynedd a thrigain nesaf; yn ddiweddaraf, cafodd ei ailwampio a rhoddwyd yr enw Ty Llên arno pan gynhaliodd Abertawe Flwyddyn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu'r DU ym 1995 ac erbyn hyn Canolfan Dylan Thomas ydyw.

Darllenwch am adeiladu Neuadd y Ddinas newydd ym 1934

Close Dewis iaith