Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ydych chi'n gymwys ar gyfer Pasbort i Hamdden?

Mae Pasbort i Hamdden ar gael i breswylwyr yn ninas a sir Abertawe sy'n bodloni'r amodau perthnasol.

Rhaid bod gennych hawl i un o'r canlynol:

  • Budd-dâl Tai
  • Gostyngiad Treth y Cyngor (y gostyngiad prawf modd yn unig, nid gostyngiadau neu eithriadau eraill)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig  ar incwm
  • Credyd Pensiwn gwarantedig
  • Credyd Treth Gwaith ac yn meddu ar gerdyn/dystysgrif eithrio credyd treth y GIG 
  • Credyd Treth Plant ac yn meddu ar gerdyn/dystysgrif eithrio credyd treth y GIG 
  • Credyd Cynhwysol - Os oedd eich enillion yn ystod eich asesiad diwethaf yn:
    • £435 neu lai
    • £935 neu lai, os ydych yn derbyn elfen ar gyfer plentyn neu os oes gennych allu cyfyngedig i weithio

Neu:

  • rydych yn aelod o gynllun incwm isel y GIG ac mae gennych dystysgrif HC2 gyfredol
  • rydych yn bartner i rywun sy'n hawlio un o'r budd-daliadau cymwys uchod ac yn byw yn yr un cyfeiriad ac wedi'ch cynnwys ar ei hawliad am fudd-dal
  • rydych dan 17 oed, yn byw yn yr un cyfeiriad ac mae gennych riant neu warcheidwad sy'n derbyn un o'r budd-daliadau uchod
  • rydych rhwng 17 a 19 oed, mewn addysg llawn (nad yw'n addysg uwch) neu wedi'ch cofrestru ar gynllun hyfforddi cymeradwy ac wedi'ch cynnwys (wedi'ch enwi) ar hawliad eich rhieni/gwarcheidwaid am fudd-dal
  • rydych yn oedolyn ifanc (dan 20 oed) mewn addysg amser llawn neu wedi'ch cofrestru ar gyfer cwrs cymeradwy ac rydych yn cael eich cefnogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Os ydych yn rhiant maeth neu'n geisiwr lloches gallwch hefyd fod yn gymwys.

Beth gallaf ei ddefnyddio fel prawf i ymaelodi â PIH? Beth gallaf ei ddefnyddio fel prawf i ymaelodi â PIH?

Sut rydw i'n gwneud cais am PIH? Sut rydw i'n gwneud cais am PIH?

Rhagor o wybodaeth a chymorth

  • E-bost: pih@abertawe.gov.uk
  • Ffôn: 01792 635353: Dydd Llun i ddydd Gwener, 10.00am i 4.00pm
  • Ewch i'r Ganolfan Gyswllt yn bersonol os oes angen i chi gyflwyno dogfennaeth wreiddiol i gefnogi cais newydd neu gyfredol neu os oes gennych ymholiad cymhleth yr hoffech ei drafod wyneb yn wyneb:
    • Dydd Llun - dydd Iau 8.30am - 4.30pm
    • Dydd Gwener 8.30am-4.00pm

 

Close Dewis iaith