Toglo gwelededd dewislen symudol

Bryn Llanmadog a Rhos Tankeylake

Mae'r ardal hon ym mhen gorllewinol penrhyn Gŵyr, rhwng pentrefi bach Llanmadog a Cheriton i'r gogledd-ddwyrain a Llangynydd i'r de-orllewin.

Gwelir bryngaer o'r Oes Haearn o'r enw y Bulwark ar ochr dde-orllewinol y bryn. Yr Ymddiriedaeth Genedlaethol sy'n berchen arni ac yn ei rheoli. Mae gweddill y bryn yn eiddo i grwp o gominwyr lleol sy'n gadael i'w da byw (defaid, gwartheg a merlod) bori yma.

Mae'r rhedyn ar Ros Tankeylake yn cael eu medi i greu compost ffrwythlon o'r enw Cyflyrydd Pridd Gŵyr sydd ar gael mewn sawl canolfan arddio leol. Defnyddir yr holl elw i dalu costau parhaus rheoli tiroedd comin Gŵyr, yn bennaf rheoli'r rhedyn a fyddai fel arall yn boddi'r cynefinoedd rhostir pwysig a geir ar rannau helaeth o'r tiroedd comin.

Uchafbwyntiau

Ceir golygfeydd gwych o gopa'r brin ar draws Gŵyr a Moryd Llwchwr.

Adar ar y bryn, yn enwedig yn ystod y tymor bridio (Mawrth - Mehefin). Mae'r safle'n bwysig ar gyfer adar megis yr ehedydd, y llinos y gornchwiglen a'r gylfinir

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC - Bryn Llanmadog)
  • Tir Comin

O fewn: 

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE)
  • tirwedd Gorllewin Gŵyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)
  • Un Heneb Gofrestredig (SAM) - Caer Bulwark o'r Oes Haearn

Cyfleusterau

  • Ceir tafarnau ar ddwy ochr y bryn, yn Llanmadog ac yn Llangynydd
  • Ceir siop/swyddfa'r post gymunedol yn Llanmadog

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS423923
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Mae sawl hawl tramwy yn croesi'r safle. Dynodwyd y safle cyfan yn dir mynediad agored.

Ceir

Gellir parcio ar yr heol yn Llangynydd a Llanmadog.

Bysus

Mae bysus yn teithio i Langynydd a Llanmadog lle gellir mynd i fyny'r bryn.

Llwybrau ceffyl

Ceir sawl llwybr ceffyl ar draws y bryn - gweler map yr Arolwg Ordnans.

Close Dewis iaith