Chwilio am gais cynllunio
Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio yn Ninas a Sir Abertawe ar y dudalen hon.
Mae gennym broblem ar hyn o bryd gyda'n chwiliad cynllunio ac rydym yn gweithio i'w datrys. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Argymhellwn eich bod yn cofrestru'ch manylion personol fel eich bod yn gallu derbyn diweddariadau rheolaidd am gynnydd y ceisiadau. Mae opsiwn uwch ar gael hefyd lle gallwch osod meini prawf gwahanol er mwyn i chi dderbyn gwybodaeth ychwanegol.
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Defnyddiwch y botwm sylwadau i ymateb i geisiadau. NI fydd unrhyw sylwadau a gyflwynir yn ymddangos ar-lein.
Caiff unrhyw sylwadau a ystyrir yn ddifrifol, yn hiliol, yn enllibus neu fel arall eu dileu.
Darllen mwy: Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Os oes gennych unrhyw broblem, cysylltwch â ni.
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.