Toglo gwelededd dewislen symudol

Colli clyw

Gwybodaeth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw.

Nodyn am derminoleg:
Mae'n bosib y byddwch yn gweld y term 'byddar' wedi'i sillafu gyda neu heb y briflythyren 'B'. Defnyddir llythrennau bras i wahaniaethu rhwng modelau meddygol a diwylliannol o bobl â nam ar y clyw. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn diffinio'r gwahaniaeth fel a ganlyn:
'Byddar' (gyda'r briflythyren B) - Rhywun sy'n uniaethu'n gryf o safbwynt diwylliannol â phobl Fyddar eraill, ac Iaith Arwyddion Brydeinig (BSL) yw ei iaith gyntaf neu ei ddewisiaith.

 

Mae gwahanol fathau o fyddardod. Mae rhai pobl yn cael eu geni'n fyddar a gallai BSL fod eu hiaith gyntaf. Mae rhai pobl wedi colli clyw o ganlyniad i e.e. salwch, cyflwr etifeddol neu henaint.

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr arbenigol sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli clyw. Maent yn gallu darparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol. Gallwch gael eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan glywedegwr neu gallwch gyfeirio'ch hun neu rywun rydych yn pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau Synhwyraidd.

Mae Gwasanaeth Cyswllt Fideo ar gael yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig i gynorthwyo ymwelwyr byddar sy'n defnyddio IAP (Iaith Arwyddion Prydain). Mae'r gwasanaeth hwn, a gynhelir yn un o'r ystafelloedd cyfarfod, yn darparu cyswllt fideo â dehonglydd IAP. Bydd y dehonglydd yn dweud wrth y staff beth mae'r cwsmer yn sôn amdano fel eu bod yn gallu deall ei ymholiad, yna defnyddio iaith arwyddion i gyfleu ymatebion y staff i'r cwsmer, er mwyn iddynt allu cael sgwrs go iawn..

 

Gall y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch:

  • Budd-daliadau.
  • Fformatau cyfathrebu.
  • Materion Tai.
  • Cyfeirio at Wasanaethau Addysg/Cyflogaeth Oedolion.
  • Tocyn bysus.
  • Consesiynau rheilffordd a chonsesiynau teithio eraill.
  • Cefnogaeth bersonol pan fydd ei hangen.
  • Gwybodaeth ar iaith arwyddion, dosbarthaidau darllen gwefusau (lle byddant ar gael).
  • Larymau cymunedol (lifelines) a ffonau gyda botymau mawr.
  • Asesiadau o anghenion gofalwr.
  • Asesiad swyddogaethol.
  • Gwybodaeth am Ddehonglwyr BSL Siaradwyr gwefusau a Chyfathrebwyr i bobl Fyddar/Ddall.

Mae gwasanaethau penodol ar gael dim ond os byddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwyster. Byddai Rheolwr Gofal yn asesu'ch amgylchiadau a nodi anghenion.

Contact the Sensory Services Team Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd

Gwasanaethau ailsefydlu i bobl sydd wedi colliu clyw

Gellid cynnig y mathau canlynol o wasanaethau i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.

Mae gennym ganolfan adnoddau sy'n cynnwys cyfarpar i bobl â nam synhwyraidd gan roi cyfle i dreialu cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.

 

Cofrestru fel person byddar neu drwm ei glyw

Mae'r Awdurdod yn cadw cofrestr o bobl sydd wedi colli eu clyw.

Mae cofrestru'n F/fyddar neu'n drwm eich clyw yn hollol wirfoddol. Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru bydd yr un gwasanaethau ar gael ar eich cyfer.

Pam ddylwn i gofrestru?

Mae'n hwyluso'r broses o dderbyn gwasanaethau a budd-daliadau penodol.

Mae'n caniatáu i'ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr sy'n cynorthwyo eich Awdurdod Lleol wrth gynllunio gwasanaethau ar gyfer chi a phobl F/fyddar eraill yn y dyfodol.

Cofrestru eich bod wedi colli'ch clyw gyda'r Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd

Cofrestru'n anabl

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith