Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am CCTV

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am CCTV.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o uwchraddio'n systemau teledu cylch cyfyng o amgylch Abertawe. Bydd data newydd sy'n adlewyrchu hyn ar gael ar y dudalen hon yn hwyrach yn y flwyddyn.

Pwy sy'n gyfrifol am y camerâu CCTV ar draws y ddinas?

Ar ran Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, mae'r cyngor yn gweithredu camerâu mewn lleoliadau allanol ar draws y ddinas. Mae'r brif system yn cynnwys 64 o gamerâu ar draws ardal yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, gan gynnwys Treforys, a cheir 43 o gamerâu yng nghanol y ddinas. Mae'r holl gamerâu hyn yn gofalu am ardal ddiffiniedig ac fe'u defnyddir yn bennaf i atal trosedd. Gall y  camerâu helpu'r Heddlu i adnabod troseddwyr a chasglu gwybodaeth ar gyfer erlyniad yn y llys.

Mae Canolfan Rheoli bwrpasol, sy'n ganolfan gyfyngedig a diogel a gaiff ei gweithredu'n unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref. Mae gan weithredwyr CCTV Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel gyswllt uniongyrchol â'r Heddlu, a gallant fwydo delwedda i ystafell reoli'r heddlu, ac adrodd am ddigwyddiadau ar unwaith. Mae'r cyfathrebiad hwn yn gweithio i'r ddau gyfeiriad, a gall yr Heddlu gysylltu ag Uned CCTV Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel i wneud cais am fonitro digwyddiad.

Mae pob un o weithredwyr CCTV Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol ac wedi cyflawni cymhwyster a gydnabyddir mewn gweithredu CCTV. Maent yn gweithredu'n unol â Pholisi CCTV y cyngor a chôd ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch camerâu Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel, cysylltwch â Gareth Pritchard drwy ffonio 07917 200 079 neu e-bostiwch diogelwch.cymunedol@abertawe.gov.uk.

Mae gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau system hefyd y mae'r Adran Tai yn gyfrifol amdani. Mae'r camerâu hyn yn bennaf mewn lle ceir lleoliadau tai cyngor fel yr amilnellir isod.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y camerâu hyn, ffoniwch: Mark Waters ar 01792 513940 neu e-bostiwch nsu.cctv@abertawe.gov.uk.

Mae'r cyngor hefyd yn gweithredu camerâu yn ei adeiladau, ei swyddfeydd a'i weithleoedd gwaith eraill. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch systemau CCTV mewnol, ffonwich switsfwrdd Cyngor Abertawe ar 01792 636000.

Ble mae'r camerâu?

Mae 2 gamera PTZ (Panio, Gogwyddo a Chwyddo) yn Nhreforys ar Stryd Woodfield a Chroes Treforys.

Mae'r gweddill yn y lleoliadau canlynol:

  • Stryd y Gwynt
  • Parêd y Cei
  • Stryd y Gwynt Fach
  • Stryd Efrog
  • Sgwâr y Castell
  • Sgwâr y Santes Fair/Ffordd y Dywysoges
  • Stryd y Coleg
  • y Stryd Fawr
  • Gwesty'r Grand
  • Gorsaf Drenau'r Stryd Fawr
  • Maes Parcio Theatr y Grand
  • Stryd Plymouth
  • Stryd Nelson
  • Stryd Rhydychen
  • Whitewalls
  • Westways
  • Stryd George/Heol San Helen
  • Ffordd y Brenin
  • Maes Parcio Lôn Northampton
  • Stryd Mansel/Stryd Christina
  • Stryd Craddock
  • Maes Parcio Stryd Pell
  • Stryd y Parc
  • yr LC
  • Gwesty'r Marriot
  • Maes Parcio'r Strand
  • Parc Tawe
  • Depo Glanfa Pipehouse y cyngor
  • cyfleuster Parcio a Theithio Ffordd Fabian
  • cyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr
  • cyfleuster Parcio a Theithio Fforestfach
  • Maes Parcio Dewi Sant
  • Maes Parcio Stryd yr Ardd.

Mae gan yr Uned Cefnogi Cymdogaethau 30 o gamerâu sydd wedi'u lleoli mewn mannau lle ceir llawer o drosedd yn ardaloedd preswyl Abertawe.

Mae 9 camera PTZ yn Townhill a Mayhill ar:

  • Rodfa Powys
  • Pen-y-Graig
  • Cylch Cadwalader
  • Siopau Mayhill
  • Heol Townhill
  • Heol Ceri
  • Teras Gwilli
  • Rhodfa'r Gors/Teras Dewi
  • a Rhodfa'r Gors/Heol Gwent.

Mae 6 chamera PTZ ym Mlaenymaes ar:

  • Rodfa'r Brain
  • Heol Calvin
  • Rhodfa Broughton
  • Rhodfa Portmead
  • Heol Woodford a Heol Penplas.

Mae 1 camera PTZ ar Heol Abertawe, Waunarlwydd.

Mae 4 camera PTZ ym Mhen-lan ar:

  • Heol Emrys/Tudno Place
  • Heol Emrys
  • Cilgant John Penry
  • St Clears Place.

Mae 2 gamera PTZ yn y Clâs ar Longview/Hillview a Heol Solfach.

Mae 5 camera PTZ yn y Trallwn a Bôn-y-maen ar:

  • Heol Mansel
  • Ffordd Caernafron
  • Cillgerran Place
  • Rhyd y Felin a Thegfan.

Mae 1 camera PTZ yn Nhyle Teg (Cilgant Hillpark), Clydach, 1 camera PTZ yn Rhodfa'r Parc, canol y ddinas ac un ar Ffordd Aneurin, Sgeti.

Mae gan yr adeiladau dinesig hefyd 2 system y mae'r Cyfleusterau Corfforaethol yn gyfrifol amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys swyddfeydd y Ganolfan Ddinesig a Neuadd y Ddinas. Mae gan y Ganolfan Ddinesig 84 o gamerâu, 25 allanol a 59 mewnol. Mae gan Neuadd y Ddinas 9 camera, 7 mewnol a 2 allanol.  Mae hefyd gamerâu CCTV yn y mwyafrif o adeiladau a gynhelir gan y cyngor, megis llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, Swyddfeydd Tai Rhanbarthol a chyfleusterau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r rhain yn cael eu cynnal a'u gweithredu gan staff ar y safle.

Faint o arian sy'n cael ei wario ar gamerâu bob blwyddyn?

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2020/21:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2019/20:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2018/19:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2017/2018:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871

Gwariant ar gamerâu ar gyfer 2016/2017:

  • Gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus y cyngor - £340,000
  • Uned Cefnogi Cymdogaethau'r Gwasanaeth Tai - £258,871
Close Dewis iaith