Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am gasgliad yr archif

Cwestiynau cyffredin.

Chwiliwch y catalog

Beth yw catalog yr archifau?

Cronfa ddata yw catalog yr archifau sy'n cynnwys disgrifiadau o'r archifau sydd gennym. Mae hefyd yn cynnwys manylion y llyfrau yn llyfrgell ein hystafell chwilio ac erthyglau yn y dyddlyfrau hanesyddol lleol sydd ar gael ar silffoedd ein hystafell chwilio. Gallwch chwilio'r catalog am bethau sydd o ddiddordeb i chi.

Pa ardal ddaearyddol mae'r catalog yn ei chynnwys? 

Rydym yn cynnwys ardal Gorllewin Morgannwg, sef Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys Gŵyr a Chymoedd Afan, Nedd, Dulais, Llwchwr a Thawe. Mae mwyafrif llethol yr archifau sydd gennym yn gysylltiedig â'r ardal hon yn unig, ond mae rhai casgliadau yn cynnwys cofnodion sy'n ymwneud ag ardaloedd y tu hwnt i'n ffiniau. Er enghraifft, roedd Ystâd Dyffryn yn cynnwys eiddo yn Sir Frycheiniog a Sir Gâr, felly mae casgliadau'r archif yn cynnwys rhai cofnodion o'r siroedd hynny.

Rwyf wedi dod o hyd i'r dogfennau y mae eu heisiau arnaf yn eich catalog - ble gallaf eu gweld? 

I weld y dogfennau yr hoffech eu harchwilio, gallwch fynd i'n hystafell chwilio yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, neu yn achos Archifau Cymdeithas Hynafiaethol Castell-nedd, Sefydliad Mecaneg Castell-nedd. Bydd rhaid i chi gofrestru am docyn darllenydd Archifau Cymru i ddefnyddio archifau gwreiddiol. Mae'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad ar gael yn yr adran Ymweld â ni ar ein gwefan.

Gaf i weld y dogfennau ar-lein? 

Yn anffodus, na chewch - diben y catalog hwn yw bod yn ffordd o ddod o hyd i'r hyn y mae ei eisiau arnoch, cyn ymweld â'r Gwasanaeth Archifau i archwilio'r cofnodion yn ein hystafell chwilio. Byddai digideiddio ein cronfa'n waith aruthrol - efallai y byddwch yn synnu i glywed ei bod yn cymryd mwy na thair milltir o silffoedd i gynnwys yr holl archifau sydd gennym!

Gaf i gopïau o'r dogfennau sydd gennych? 

Gellir copïo dogfennau sydd gennym, oni bai y byddai gwneud hynny yn niweidio'r ddogfen, neu'n torri hawlfraint. Gweler yr adran Gwasanaeth copio ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Pam mae cyfyngiadau ar rai eitemau? 

Mae rhai cofnodion yn cynnwys gwybodaeth bersonol, sensitif am unigolion a enwir, ac wedi'u cyfyngu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Weithiau mae adneuwyr yn gosod cyfyngiadau ar fynediad i'w cofnodion pan fyddwn yn eu derbyn. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion sydd gennym ar gael heb unrhyw gyfyngiadau am fynediad.

Close Dewis iaith