Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trosglwyddo a chyfnewid cartref - tenantiaid y cyngor

Gallwch drosglwyddo i dai eraill y cyngor neu gyfnewid cartref os ydych am symud tŷ.

HomeSwapper - cyfnewid drwy gytundeb

Gallwch gyfnewid eich cartref (cyfnewid drwy gytundeb) â thenantiaid cyngor eraill (neu denantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill) os yw'ch landlord yn cytuno.I lawer o denantiaid, gall cyfnewid fod yn ffordd gyflymach o symud na gwneud cais i drosglwyddo.

Gallwch wneud cais i gyfnewid eich cartref drwy gofrestru gyda HomeSwapper. Mae'n wasanaeth cyfnewid drwy gytundeb cenedlaethol am ddim ar-lein a sefydlwyd ar gyfer tenantiaid y cyngor a chymdeithasau tai sydd am gyfnewid cartrefi. Mae ap ar gael hefyd y gallwch ei lawrlwytho i'ch ffôn.

Ar ôl i chi gofrestru ac ychwanegu manylion am eich cartref presennol a'r cartref yr hoffech symud iddo, bydd Homeswapper yn chwilio'n awtomatig am denantiaid addas y gallech gyfnewid â hwy. Yna byddwch yn cael e-bost neu neges destun gyda manylion y tenantiaid hynny.

Dyma fideo sy'n esbonio sut mae HomeSwapper yn gweithio:

Pan fyddwch yn dod o hyd i rywun yr hoffech gyfnewid cartrefi â hwy:

  1. Trefnwch ymweld â chartrefi'ch gilydd.  Wrth gyfnewid cartrefi, rydych yn derbyn safon gyffredinol atgyweirio ac addurno'r eiddo fel yr oedd ar adeg eich ymweliad. Felly, sicrhewch eich bod yn hapus gydag unrhyw fân atgyweiriadau neu waith addurno y mae angen eu gwneud.
    • Ystyriwch os ydych chi'n fodlon ar y lleoliad/yr ardal, cludiant cyhoeddus/parcio, amwynderau megis siopau, ysgolion, parciau etc. a'ch cymdogion.
  2. Gwiriwch beth yw rhent eich cartref newydd a'r math o denantiaeth y bydd gennych gyda'ch landlord newydd.
  3. Ar ôl i chi benderfynu cyfnewid cartrefi, bydd rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan eich swyddfa dai ardal cyn y gallwch gyfnewid. Byddwch yn derbyn y penderfyniad o fewn 42 diwrnod. Gellir gwrthod eich cais i gyfnewid oherwydd rhesymau penodol megis:
    • mae'r eiddo yn llai/fwy na'r hyn y mae ei angen arnoch neu'n anaddas
    • mae gennych ôl-ddyledion rhent
    • rydych wedi torri amodau'ch tenantiaeth
  4. Yn ystod y broses o gymeradwyo'r cyfnewid, bydd landlordiaid yn gwirio cyflwr eich cartref, ei iechyd a'i ddiogelwch - gan gynnwys gwiriadau nwy a thrydan yn ogystal â chwblhau Tystysgrif Perfformiad Ynni os oes angen.
  5. Bydd landlordiaid hefyd yn gwirio'ch cyfrif rhent - fel arfer bydd angen i chi gael cyfrif rhent sy'n glir er mwyn cwblhau'r broses gyfnewid a byddant yn cwblhau cyfeirnod tenantiaeth ar gyfer eich landlord newydd.
  6. Rhaid i bob landlord sy'n rhan o'r broses gyfnewid roi ei ganiatâd cyn i chi allu symud. Unwaith y byddwch yn derbyn caniatâd i symud gan eich landlord, bydd angen i chi drefnu dyddiad symud gyda'ch partner cyfnewid a rhoi gwybod i'ch landlord. Bydd angen i chi gwblhau gwaith papur gan gynnwys 'Gweithred Aseiniad' sy'n ddogfen gyfreithiol rwymol.
  7. Ni ddylech fyth dderbyn na gwneud unrhyw daliad am gyfnewid â thenant arall a pheidiwch â symud nes eich bod wedi derbyn caniatâd eich landlord, neu gallwch golli eich cartref.

Cysylltwch â'ch swyddog cymdogaeth am ragor o wybodaeth a chyngor.

Ewch i HomeSwapper i gofrestru ar y wefan i chwilio am gartref i'w gyfnewid.

Trosglwyddo i dŷ cyngor arall

I drosglwyddo, bydd rhaid i chi fodloni'r amodau canlynol:

  • nid oes ôl-ddyledion rhent gennych
  • rydych wedi cydymffurfio'n rhesymol ag amodau'ch tenantiaeth
  • mae'r cartref a'r ardd mewn cyflwr rhesymol

Dim ond Rheolwr y Swyddfa Ranbarthol sydd â'r hawl i ddewis anwybyddu'r amodau hyn mewn sefyllfaoedd penodol.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais y gallwch ei chasglu o'ch swyddfa dai ardal leol. Gall y staff eich helpu i lenwi'r ffurflen hefyd neu ei darparu mewn fformat arall, e.e. print bras neu iaith arall, neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cewch ddewis yr ardaloedd yr hoffech symud iddynt, ond gall maint yr eiddo mae ei angen arnoch ac argaeledd gyfyngu ar eich dewis ardaloedd.

Caiff eich cais ei asesu a rhoddir pwyntiau i chi yn ôl eich anghenion tai. Gallwn ddyrannu pwyntiau: os ydych yn symud o ardal lle ceir galw uchel i ardal lle ceir galw isel; os ydych yn tanfeddiannu'ch cartref neu yn ei orlenwi; oherwydd anghenion meddygol neu resymau economaidd, e.e. i fod yn agosach at eich gweithle neu gyfleuster arbennig neu i roi neu dderbyn cefnogaeth. Bydd y rhai sydd eisoes yn denantiaid y cyngor hefyd yn cael pwyntiau amser yn ôl nifer y blynyddoedd maent wedi bod yn eu cartref presennol.

Sylwer bod y gofrestr anghenion tai yn newid yn ddyddiol. Rydym yn defnyddio system pwyntiau i asesu pa mor frys yw eich anghenion tai, a chofrestr anghenion tai i restru pobl yn nhrefn blaenoriaeth eu hanghenion. Bydd yr achos â'r nifer uchaf o bwyntiau ar frig y rhestr.

Bydd pa mor hir rydych yn aros am eiddo newydd yn dibynnu ar y canlynol:

  1. Bydd nifer y pwyntiau a ddyfarnwyd i chi yn pennu eich lle ar y gofrestr anghenion tai. Cynigir tŷ addas i'r person ar frig y gofrestr yn unig pan fydd eiddo addas gael.
  2. Bydd yr ardaloedd rydych wedi'u dewis yn effeithio ar eich cyfnod aros, oherwydd bod galw uchel am rai ardaloedd, ac ychydig o bobl sy'n gadael eiddo yno. Nid oes galw mewn rhai ardaloedd a byddech yn gallu symud i'r rhain yn gyflym iawn a gallwn hefyd ehangu ein meini prawf ailgartrefu yma.

Pan fydd eiddo ar gael i chi, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn rhoi manylion yr eiddo i chi a gofyn i chi gysylltu â'r swyddfa dai ardal i gadarnhau a hoffech dderbyn yr eiddo ai peidio.

Close Dewis iaith