Toglo gwelededd dewislen symudol

Lwfans Tai Lleol

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae swm y Budd-dal Tai y gallwch ei dderbyn yn seiliedig ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich amgylchiadau.

Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ystyried nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar eich aelwyd. Mae swm y budd-dal y gallech ei dderbyn yn cael ei bennu yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch ac nid nifer yr ystafelloedd gwely sydd gennych na chost eich rhent.

Sawl ystafell wely bydd ei angen arna' i?

Mae nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen yn seiliedig ar nifer, oedran a rhyw'r bobl sy'n byw yn eich aelwyd. Caniateir un ystafell wely i chi ar gyfer:

  • pob oedolyn neu gwpl sy'n oedolion (dros 16 oed gan gynnwys cyplau o'r un rhyw)
  • pob oedolyn arall yn yr aelwyd (dros 16 oed gan gynnwys lletywyr)
  • unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw (rhwng 10 ac 16 oed)
  • unrhyw ddau blentyn o wahanol rywiau (sy'n iau na 10 oed)
  • unrhyw blentyn arall
  • person nad yw fel arfer yn byw yn yr eiddo ond sy'n darparu gofal dros nos rheolaidd i'r hawlydd neu ei bartner (cyn belled â bod ystafell wely sbâr yn yr eiddo ar ei gyfer)
  • bydd gofalwyr maeth yn cael un ystafell ychwanegol, cyn belled â'u bod wedi maethu plentyn neu'n dod yn ofalwr maeth cymeradwy o fewn y 52 wythnos diwethaf
  • bydd rhieni sydd â phlant sy'n oedolion yn y lluoedd arfog (neu'n filwyr wrth gefn) sydd fel arfer yn byw gyda nhw yn gallu cadw'r ystafell wely ar gyfer y plentyn hwnnw sy'n oedolyn pan fyddant yn cael eu lleoli ar weithrediadau.

Os yw'r hawlydd yn sengl a dan 35 oed, y categori eiddo yr ystyrir ei fod yn briodol yw ystafell wely mewn llety a rennir. Mae hyn yn golygu eiddo lle mae'r hawlydd yn defnyddio un ystafell wely yn unig, ond mae'n rhannu un neu ragor o ystafelloedd eraill fel cegin, ystafell ymolchi, toiled neu ystafell sy'n addas ar gyfer byw ynddi.

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol

Mae Lwfans Tai Lleol wedi cael ei gyfyngu ar y gyfradd 4 ystafell wely. Hyd yn oed os yw maint eich teulu'n golygu y byddai angen eiddo â mwy na 4 ystafell wely arnoch fel arfer, bydd eich budd-dal yn parhau i gael ei seilio ar y gyfradd 4 ystafell wely.

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer Abertawe 1 Ebrill 2024
Nifer yr ystafelloedd gwelyCyfradd wythnosol
Ystafell a gwely a rennir£86.30
1 ystafell wely£120.82
2 ystafell wely£126.58
3 ystafell wely£138.08
4 ystafell wely£188.71
Close Dewis iaith