Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfranogiad plant o phobl ifanc

I sicrhau'r gweithgareddau ymgynghori sicrhau ansawdd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe.

Ymgynghori a chynnwys

Beth yw ystyr ymgynghori a chynnwys?

Gall ymgyghoriad cael ei ddiffinio fel 'yr ystyriaeth rhwng dau neu fwy o bobl ar ryw destun, gyda'r nod o wneud penderfyniad' (Geiriadur Saesneg Rhydychen) a gall arwain at y buddion canlynol:

  • Datblygu sgiliau datrys problem a chyd-drafod;
  • Datblygu perthnasoedd rhwng pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau;
  • Gwella cyflwyno gwasanaethau;
  • Datblygu polisiau effeithiol;
  • Hybu cyfranogiad cymunedol;
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i ba mor effeithiol y mae darparwyr gwasanaethau wrth weithio'n gyfranogol a chefnogi pobl ifanc wrth ddatblygu gwasanaethau;
  • Nodi ffyrdd o wella a diwallu anghenion plant, pobl ifanc, teuluoedd, aeolodau'r gymuned etc. Sydd heb eu diwallu;
  • Cynnig dull arall i bobl ifanc gael lleisio'u barn;
  • Datblygu prosesau cydweithio parhaus rhwng y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a phobl ifanc.

Sut rydym yn sicrhau ansawdd gwaith ymgynghori a chynnwys?

Dylai ymgynghori gynnig cyfleoedd i bobl ifanc sy'n darparu profiadau o safon. Gallwn fesur gweithgaredd yn erbyn y safonau cyfranogiad cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc. Mae ymgynghori effeithiol yn golygu:

  • Y rhoddir gwybodaeth i'r bobl briodol mewn ffordd sy'n gywir, yn hawdd i'w deall ac yn esbonio pa wahaniaeth a fydd o'u cynnwys;
  • Y darperir manylion yr ymgynghoriad mewn ffordd amserol fel y gall pobl ifanc gael eu gwahodd a gallu gwneud dewis gwybodus am a ydynt yn dymuno neu a ddylent gymryd rhan;
  • Bod ymgynghoriadau'n gynhwysol ac nid ydynt yn gwahaniaethu. Y dylai'r cyfle ddarparu ar gyfer unrhyw berson ifanc sy'n teimlo ei bod yn berthnasol iddo gymryd rhan; Nid yw'n golygu bod pob ymgynghoriad yn berthnasol i bob person ifanc;
  • Y perchir barn pobl ifanc a gesglir yn ystod ymgynghoriad. Y dylid cynnig ymgynghoriad ar y cam ffurfiannol yn unig a dylid cynnwys pobl ifanc dim ond os gellir ystyried eu barn a'u safbwyntiau'n realistig;
  • Bod pobl ifanc yn elwa ohono mewn rhyw ffordd. Y dylid cyflawni gwaith mewn ffyrdd diogel, pleserus a llawn hwyl, a dylai fod yn brofiad cadarnhaol i bawb sy'n rhan ohono;
  • Bod ymgynghorwyr yn cynllunio adborth fel rhan o'r broses. Ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn gwybod pa wahaniaeth mae eu barn yn ei wneud, neu wedi methu a'i wneud a pham;
  • Y dylai'r ffordd y cynllunnir ymgynghoriad wella'r ffordd rydym yn gweithio; sut rydym yn gweithio gyda phobl ifanc a sut gwneir cynlluniau a phenderfyniadau.

I sicrhau'r gweithgareddau ymgynghori sicrhau ansawdd i Blant a Phobl Ifanc yn Abertawe, bydd y Tim Cyfranogiad yn:

  • Sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod darparwyr gwasanaethau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau sydd am gynnal ymgynghoriad a phlant a phobl ifanc yn cwblhau Holiadur Protocol Cyfranogiad sy'n egluro rol, diben, manteision etc. Bydd y tim yn asesu ansawdd yr ymgynghoriad ac yn gwneud argymhellion i'r ymgynghorwyr lle bo'r angen;
  • Gweithredu fel corff canolog, yn nodi grwpiau ac unigolion perthnasol sydd efallai a diddordeb yn yr ymgynghoriad neu a allai elwa o gymryd rhan ynddo, e.e. anfonir cyfleoedd drwy'r Rhwydwaith Cyfranogiad a rhwydweithiau eraill sy'n bodoli eisoes, a neilltuir amser mewn 'Sgwrs Fawr' i gynnal ymgynghoriadau i'r rhai sydd am aros;
  • Sicrhau ac yn cefnogi datblygu cronfa ddata'r ymgynghoriad fel y gellir cynllunio a chydlynu ymgynghoriadau bob blwyddyn;
  • Gan ddefynddio Olrheiniwr Erthygl 12, yn cofnodi ac yn gwerthuso effaith cyfranogiad pobl ifanc mewn cyfleoedd a ddarperir/gefnogir gan y Tim Cyfranogiad PPI.

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y choedd.
Close Dewis iaith