Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Abertawe

Mae'r cyhoeddiad 'Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr' yn darparu gwybodaeth Cyfrifiad 2011 am boblogaeth leol a nodweddion aelwydydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Mae ystadegau allweddol Cyfrifiad 2011 ar gyfer Abertawe yn cynnwys:

  • Poblogaeth yn ôl preswylfa arferol Abertawe oedd 239,023 yn 2011, cynnydd o 15,500 neu saith y cant ers 2001. Mae bron un o bob pump (18 y cant, 42,800) o breswylwyr Abertawe yn 65 oed neu'n hyn, gydag oddeutu 17% (41,400) o dan 16 oed. Oedran cyfartalog preswylwyr Abertawe yw 39 (Cymru: 41). 
  • Mae data'r Cyfrifiad yn awgrymu fod 108,729 o anheddau yn Abertawe (Mawrth 2011), gyda 103,497 o aelwydydd meddianedig. Maint cyfartalog cartrefi yn Abertawe bellach yw 2.31, gostyngiad o 2001 (2.33). 
  • Mae cyfran uwch o breswylwyr oed 16 neu'n hyn yn sengl yn 2011 nag yn 2001 (cynnydd o 29.7% i 36.7%). Ar y llaw arall, roedd cyfran is yn briod yn 2011 (42.8%) nag yn 2001 (50.1%). Mae'r niferoedd a'r cyfrannau sydd wedi gwahanu neu sydd wedi ysgaru hefyd wedi cynnyddu dros y degawd. 
  • Yn 2011 roedd gan Abertawe ganran uwch o breswylwyr gyda phroblem iechyd hir dymor neu anabledd, ychydig o dan chwarter yr holl bobl (23.3%, oddeutu 55,700); ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru (22.7%). Mae'r gyfran yma wedi gostwng ychydig ers 2001 (24.7%). 
  • O ran ethnigrwydd, cofnododd y cyfrifiad fod 94% o boblogaeth yn ôl preswylfa arferol Abertawe yn wyn (oddeutu 224,700 o bobl). Mae'r gyfran o'r boblogaeth ethnig sydd ddim yn wyn yn Abertawe wedi codi o 2.2% yn 2001 (oddeutu 4,800 o bobl) i 6.0% yn 2011 (14,300), a'r grwp ethnig mwyaf sydd ddim yn wyn yn Abertawe yn bobl Tseiniaidd (2,052 o bobl, 0.9%) a phobl o Fangladesh (1,944, 0.8%). 
  • Dywedodd 55 y cant (131,451) o drigolion Abertawe mai Cristnogaeth yw eu crefydd yn 2011, cwymp o 16 y cant ers 2001. Dywedodd dros draean (34%, 81,219) o'r boblogaeth yn Abertawe nad oedd crefydd ganddynt yn 2011, cynnydd o oddeutu 44,000 yn 2001.Y grefydd lleiafarifol fwyaf yn Abertawe yw Mwslim (5,415, neu 2.3% o'r holl bobl). 
  • Yn 2011 cafodd 7.2% (17,233) o bobl yn Abertawe eu geni y tu allan i'r DU, cynnydd o 3.6 y cant (oddeutu 9,300 o bobl) ers 2001. 
  • Mae canran y bobl dros 3 oed sy'n gallu siarad Cymraeg yn Abertawe wedi gostwng o 13.4 y cant (28,938) yn 2001 i 11.4 y cant yn 2011 (26,332 o bobl). Mae'r gostyngiad hwn (9%) yn fwy na'r hyn a gofnodir ar gyfer Cymru dros yr un cyfnod (-3.5%). 
  • Yn 2011, roedd cyfran is o aelwydydd yn Abertawe (64.0 y cant, 66,259 o aelwydydd) yn berchen ar eu llety nag yng Nghymru (67.4 y cant). Dyma oedd y bedwaredd gyfran isaf o'r 22 awdurdod unedol yng Nghymru.  Ar y llaw arall, mae gan Abertawe gyfrannau uwch o aelwydydd yn y sectorau llety ar rent cymdeithasol (19,878 / 19.2%) a llety ar rent preifat (15,260 / 14.7%). 
  • Mae'r nifer o geir a faniau sydd ar gael i aelwydydd yn Abertawe wedi codi o 97,825 i 118,896 rhwng 2001 a 2011. Yn 2001 roedd cyfartaledd o 1.04 o geir i bob aelwyd yn Abertawe ond yn 2011 roedd y ffigur hwn wedi codi i 1.15. Roedd y cynnydd mwyaf yn rhifol ar gyfer aelwydydd â dau gar (+4,655) ac yn gyfrannol mewn aelwydydd sydd â 4+ o geir (+85.6%). 
  • Roedd cyfran uwch o bobl (12.7%, 30,349) yn Abertawe yn darparu gofal di-dâl nag yng Nghymru (12.1%) yn 2011. Roedd oddeutu 43% o bobl (13,000) a oedd yn darparu gofal yn Abertawe yn gwneud felly am 20 neu fwy o oriau yn 2011, sy'n uwch na'r ffigur cyfwerth yn 2001 (tua 11,000). 
  • Roedd dros chwarter o'r boblogaeth yn ôl preswylfa arferol yng Nghymru 16 oed neu'n hyn (25.8% / 51,081 o bobl) wedi nodi bod ganddynt gymhwysterau lefel 4 ac uwch (Gradd yn bennaf), ychydig yn uwch na'r gyfran yng Nghymru (24.5%). Fodd bynnag, nid oedd gan 23.9% o'r rheini sy'n 16 oed neu'n hyn yn Abertawe unrhyw gymhwysterau (Cymru 25.9%). 
  • Mae ffigurau Abertawe yn dangos cynnydd mewn gweithgaredd economaidd dros y deng mlynedd, cynnydd o 58.6% i 63.0%, gyda chynnydd yn y gyfran o bobl rhwng 16 a 74 oed sy'n gweithio'n rhan-amser, yn hunangyflogedig ac yn fyfyrwyr. Ar yr un pryd, cafwyd gostyngiadau yn y categorïau 'gofalu am y cartref/teulu' a 'sâl/anabl yn barhaol' (anweithgar yn economaidd). 
  • Mae'r nifer o bobl rhwng 16 a 74 oed sy'n gyflogedig yn Abertawe wedi codi o oddeutu 88,000 yn 2001 i 102,793 yn 2011. Cyfanwerthu/masnach adwerthu yw'r sector diwydiant sengl mwyaf arwyddocaol yn Abertawe o hyd (17,486 o bobl / 17% o'r holl gyflogaeth); Gydag oddeutu 36,700 yn gyflogedig yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd/gofal cymdeithasol (35.7%). Mae'r niferoedd sy'n gweithio yn y maes gwerthgynhyrchu wedi gostwng o oddeutu 11,900 yn 2001 i 7,389 yn 2011.

Mae'r wybodaeth hon wedi'i defnyddio i lunio proffil cryno o Gyfrifiad 2011 o  Ddinas a Sir Abertawe (PDF) [107KB], a phroffil cyfwerth i  Gymru (PDF) [107KB]

Mae detholiad o dablau 'Ystadegau Allweddol' sy'n cynnwys data Cyfrifiad 2011 ar gyfer Abertawe, Cymru a Chymru a Lloegr ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho o'r dudalen hon. Mae'r ffeiliau'n cynnwys taflenni gwaith ychwanegol sy'n defnyddio'r diffiniadau a ddefnyddir gan SYG ym mhob achos, ynghyd â'r tabl cryno cyfatebol agosaf o gyfrifiad 2001.

Fel rhan o ail gam y rhyddhau, cyhoeddwyd cyfres o dablau 'Ystadegau Cyflym ' hefyd gan y SYG rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2013. Mae detholiad o'r tablau Ystadegau Cyflym sy'n cynnwys data ar gyfer Abertawe, Cymru a Chymru a Lloegr hefyd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho o'r dudalen hon. Mae'r tablau hyn yn cynnwys ystadegau Cyfrifiad 2011 ar gyfer amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  • Ail gyfeiriadau 
  • Camau bywyd a chyfansoddiad aelwydydd 
  • Teuluoedd â phlant dibynnol 
  • Aelwydydd yn ôl dimensiynau amddifadedd 
  • Gwlad enedigol (manwl) 
  • Prif iaith (manwl) 
  • Hyfedredd iaith 
  • Sgiliau iaith Gymraeg (manwl) 
  • Crefydd (manwl) 
  • Grwp Ethnig (manwl) 
  • Maint aelwydydd 
  • Ystafelloedd/ystafelloedd gwely a chyfraddau preswylio 
  • Gwres canolog 
  • Cymwysterau 
  • Myfyrwyr amser llawn 
  • Galwedigaeth (grwpiau llai) 
  • Dull teithio i'r gwaith 
  • Preswyliad yn y DU a blwyddyn/oed cyrraedd 
  • Preswylwyr byr dymor na chawsant eu geni yn y DU 
  • Amcangyfrif o radd gymdeithasol. 

Mae'r SYG hefyd wedi cyhoeddi tablau Ystadegau Allweddol a Chyflym ar gyfer ardaloedd daearyddol bach. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu gyngor ar argaeledd data lleol o Gyfrifiad 2011 ar gyfer ardaloedd yn Abertawe, cysylltwch â ni

Close Dewis iaith