
Cynllunio Strategol
Gallwch lawrlwytho'r Cynllun Datblygu Unedol a fabwysiadwyd, Canllawiau Cynllunio Atodol a dogfennau cynllunio priodol gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am broses llunio'r Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r Tîm Cynllunio Strategol yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu'r Cyngor, ac mae hefyd yn ymwneud â nifer o astudiaethau cynllunio strategol eraill, briffiau datblygu ardal a phrosiectau blaengynllunio eraill. Mae'r tîm yn cynnig arweiniad i ddatblygwyr, eu hasiantau ac unigolion/sefydliadau perthnasol eraill ar faterion sy'n ymwneud â pholisïau. Mae hefyd yn cynghori ar ddeddfwriaeth sy'n datblygu, gweithdrefnau statudol a pholisïau cynllunio perthnasol, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
Cynllun datblygu llynedol (CDU)
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Unedol (CDU) Dinas a Sir Abertawe ar 10 Tachwedd 2008. Hwn yw'r cynllun datblygu diweddaraf. Mae'n cwmpasu ardal weinyddol yr awdurdod ac fe'i defnyddir wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae'n amlinellu amrywiaeth o bolisïau a chynigion sy'n berthnasol i ddatblygiadau yn y dyfodol, ac yn ymwneud â defnydd a chadwraeth tir ac adeiladau yn y ddinas a'r sir hyd at 2016.
Cynllun datblygu lleol (CDLl)
Cyflwynodd y cyngor Gynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025 (y 'CDLl') i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad annibynnol ar 28 Gorffennaf 2017.
Arweiniad cynllunio atodol a fabwysiadwyd
Canfod mwy am ein harweiniadau mwyaf diweddar a fabwysiadwyd
Dogfennau a strategaethau cynllunio ychwanegol
Canfod mwy am yr ystod o ddogfennau a strategaethau cynllunio eraill sy'n ddeunydd i ystyried ceisiadau cynllunio.