Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Rheoli Traethau (CRhT) 2021-2023

Mae'r CRhT ar waith i sicrhau bod traethau a reolir gan y cyngor yn cael eu rheoli'n dda, a bod yr awdurdod yn cynnal statws y Faner Las ar gyfer Bae Caswell, Bae Langland a Phorth Einon/Horton.

Diben

Mae'r CRhT yn cynnwys pum traeth a reolir gan y cyngor, sy'n allweddol i'r cyrchfan o ran preswylwyr a'r economi ymwelwyr:

  • Bae Langland - Y Faner Las
  • Bae Caswell - Y Faner Las
  • Horton/Porth Einon - Y Faner Las
  • Bae Bracelet - Gwobr Arfordir Glas
  • Bae Abertawe - SoDdGA

Mae'r CRhT yn ceisio rheoli'r traethau hynny'n effeithlon, gwella ansawdd a chadw eu statws Faner Las / Arfordir Glas / SoDdGA.

Blaenoriaethau Strategol

  • Rheoli gweithredol cyffredinol
  • Gwell cyfleusterau, isadeiledd a mannau cyhoeddus
  • Rheoli diogelwch
  • Rheoli amgylcheddol a bioamrywiaeth
  • Trafnidiaeth a hygyrchedd
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Aelodau'r Grŵp Rheoli Traethau

Twristiaeth (Cadeirydd), Partneriaeth a Chyrchfan Cymunedol (Ysgrifenyddiaeth), Parciau a Glanhau, Priffyrdd a Meysydd Parcio, Diogelwch Dŵr, Iechyd y Cyhoedd, AoHNE a Chefn Gwlad, Cadwraeth Natur, Draeniad ac Amddiffyn yr Arfordir, Abertawe Mwy Diogel, Ystadau, Trafnidiaeth, RNLI 

Pa mor aml y cynhelir y cyfarfodydd

  • Mis Mawrth: cyfarfod cyn y tymor ymdrochi
  • Mis Mehefin: cyfarfod cyn tymor yr haf
  • Mis Hydref: cyfarfod wedi'r tymor
  • Mis Tachwedd i fis Chwefror: 3 chyfarfod is-grŵp ar themâu a chamau gweithredu penodol

Allbynnau

  • 6 chyfarfod y flwyddyn
  • Cynllun Gweithredu Rheoli Traethau cyfamserol
  • Adroddiad cynnydd blynyddol i'r cyfarwyddwr

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut caiff ei roi ar waith, e-bostiwch Peter.Beynon@abertawe.gov.uk 

Close Dewis iaith