Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ('y Ddeddf') yn gyfraith newydd sy'n newid y ffordd mae cynghorau lleol yng Nghymru'n darparu gofal a chefnogaeth.

Daeth i rym ym mis Ebrill 2016 ac yn golygu bod yn rhaid i gynghorau ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau fel mae'r Ddeddf yn nodi.

Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o opsiynau i unigolion a'u gofalwyr o ran eu gofal a'u cefnogaeth. I'ch cefnogi i gyflawni lles, byddwch chi a'ch teulu neu'ch gofalwr yn gwneud penderfyniadau am eich gofal a'ch cefnogaeth mewn partneriaeth gyfartal â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad hwylus i wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.

Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar helpu pobl i gadw'n iach, i fod yn ddiogel rhag niwed, i fod mor annibynnol ag y bo modd ac i gael eu cefnogi yn eu cymuned leol a chanddi. 

Mae ganddi bum egwyddor:

  • Hyrwyddo lles

Gweithio gyda chi i ddeall yr hyn sydd o bwys i chi a'ch helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig ar gyfer eich lles.

  • Llais a rheolaeth

Eich rhoi wrth wraidd eich gofal; rhoi llais i chi wrth wneud penderfyniadau am eich bywyd a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sydd o bwys i chi.

  • Atal ac ymyriad cynnar

Cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i'ch helpu i gadw'n iach a'n helpu i wybod pryd gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch i atal problemau rhag cyrraedd cam hanfodol.

  • Cynhrchu ar y cyd

Rhoi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ar sut mae'ch pecyn gofal a chefnogaeth yn cael ei lunio a'i ddarparu.

  • Cydweithio

Gwaith partneriaeth cadarn rhwng y sefydliadau amrywiol a'r bobl sy'n eich cefnogi, gan eich helpu i fyw'r bywyd rydych chi'n ei ddewis yn hwy.

Lles

Mae lles yn rhan bwysig o'r Ddeddf.  Mae'n golygu bod pobl:

  • yn iach
  • yn teimlo'n dda am eu bywyd
  • yn ddiogel ac wedi'u hamddiffyn
  • yn gallu dysgu pethau newydd.

I oedolion, mae hefyd yn golygu:

  • rheolaeth dros eu bywyd
  • gallu gweithio.

Ac, i blant, mae'n golygu eu bod:

  • yn gallu tyfu lan yn hapus
  • yn cael gofal da.

Er mwyn diffinio ystyr lles i'r unigolyn a deall a yw hyn yn cael ei gyflawni, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Datganiad Lles.

Asesu'ch anghenion cefnogaeth

Bydd proses asesu newydd, symlach ar gyfer gofal a chefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion chi a'r hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Yn ogystal â chael gwybod beth yw'r problemau, byddwn ni eisiau edrych ar eich cryfderau, yr hyn sy'n mynd yn dda yn eich bywyd a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi gan eich teulu a'ch ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.
  
Gall un person gynnal yr asesiad ar ran nifer o sefydliadau a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i gydlynu'ch cefnogaeth.  Gallai'r rhain gynnwys eich cyngor lleol, gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymunedol a sefydliadau sector gwirfoddol. 

Mae hawl gyfartal gan ofalwyr i gael eu hasesu ar gyfer cefnogaeth, i'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw; gall unrhyw un sy'n darparu gofal di-dâl gael asesiad gofalwr.

Mae hawl gan fwy o bobl i gael taliad uniongyrchol fel y gallan nhw gael mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros y gefnogaeth maen nhw'n ei chael.

Bydd mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod yr help iawn ar gael pan fydd ei angen arnoch chi.

Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi cael eu cyflwyno.

Rhagor o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am y Ddeddf, ewch i: wefan (Gofal Cymdeithasol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd). Mae hyn yn cynnwys dolenni i nifer o dudalennau gan gynnwys Grynodeb i Bobl Ifanc o'r Ddeddf a Fersiwn Hawdd ei Ddarllen.

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru Hyb Gwybodaeth a Dysgu cynhwysfawr 'Deall y Ddeddf' (Yn agor ffenestr newydd) i'r rhai sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd a'r trydydd sector.

Close Dewis iaith